Brew - Sgoriwr yr ail gais
Dreigiau 21–10 Caeredin

Enillodd y Dreigiau am y pedwerydd tro’n unig y tymor hwn yn y RaboDirect Pro12 nos Sadwrn. Caeredin oedd y gwrthwynebwyr ar Rodney Parade ac roedd ceisiau Joe Bedford ac Aled Brew yn yr hanner cyntaf yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r rhanbarth o Gymru

Hanner Cyntaf

Dau funud yn unig a gymerodd hi i’r ymwelwyr o’r Alban agor y sgorio. Troseddodd y Dreigiau yn ardal y dacl a chiciodd Phil Godman dri phwynt cyntaf y gêm i roi mantais gynnar i Gaeredin.

Cafodd Jason Tovey gyfle i unioni pethau ychydig funudau’n ddiweddarach ond tarodd ei gic gosb ef yn erbyn y pyst. Roedd Dreigiau i lawr i bedwar dyn ar ddeg wedi deg munud ar ôl i Gavin Thomas dderbyn cerdyn melyn braidd yn llym am drosedd yn ardal y dacl.

Ond wnaeth chwarae gydag un yn llai ddim effeithio’r Dreigiau’n ormodol ac yn wir, hwy sgoriodd y pwyntiau nesaf diolch i gic gosb Tovey wedi 16 munud. Ac roedd y tîm cartref ar y blaen cyn i Thomas ddychwelyd diolch i ail gic gosb Tovey wedi 19 munud.

Roedd y chwarter cyntaf yn llawn camgymeriadau a diffyg disgyblaeth ac fel y dychwelodd Thomas i’r cae i’r Dreigiau fe adawodd Sean Cox am ddeg munud i Gaeredin, trosedd arall yn ardal y dacl.

Parhau i bwyso a wnaeth y Dreigiau ac roedd y bylchau’n dechrau ymddangos yn awr a doedd fawr o syndod gweld mewnwr y Dreigiau, Joe Bedford, yn plymio dros y gwyngalch o fôn y ryc wedi 24 munud, 13-3 yn dilyn trosiad Tovey.

Roedd y Dreigiau’n dechrau rhedeg y bêl yn bwrpasol yn awr ac roeddynt ym mhellach ar y blaen cyn yr egwyl diolch i gais yr asgellwr, Aled Brew, wedi 35 munud. Torrodd Anitele’a Tuilagi y llinell fantais yng nghysgod y pyst cyn i’r bêl gael ei lledu’n gyflym i Brew ar yr asgell chwith. Methodd Tovey’r trosiad y tro hwn ond roedd y Dreigiau ar y blaen o 18-3.

Fe groesodd Brew eto yn y munudau olaf ond roedd y bas olaf iddo gan Ashley Smith ymlaen. Rhaid oedd bodloni ar bymtheg pwynt o fantais ar yr hanner felly.

Ail Hanner

Roedd Caeredin yn well wedi’r egwyl ond daliodd amddiffyn y Dreigiau’n gryf ac yn wir, hwy sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ail gyfnod gyda chic gosb o droed Tovey toc wedi’r awr.

Tarodd Caeredin yn ôl wedi 65 munud gyda chais i Grant Gilchrist. Methodd amddiffyn y Dreigiau ag ail drefnu’n ddigon cyflym yn dilyn sgrym bump o dan y pyst a hyrddiodd y clo dros y llinell o ddwy fedr. 21-10 y sgôr yn dilyn trosiad yr eilydd o faswr, Gregor Hunter, a llygedyn o obaith i’r Albanwyr gyda chwarter awr ar ôl.

Y byddai’r deg munud olaf wedi bod yn gyffrous iawn pe na bai asgellwr yr ymwelwyr, Sep Visser, wedi taro’r bêl ymlaen pan oedd cais yn anochel. Ond roedd y Dreigiau yn ddigon cyfforddus mewn gwirionedd ac roeddynt yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth yn y diwedd, 21-10 y sgôr terfynol.

Ymateb

Er ei fod braidd yn siomedig na chafodd ei dîm bwynt bonws yn yr ail hanner roedd hyfforddwr y Dreigiau, Darren Edwards, yn ddigon bodlon gyda’r perfformiad ar y cyfan ac yn llygadu’r trydydd safle o blith rhanbarthau Cymru yn y gynghrair.

“Mae unrhyw fuddugoliaeth yn y gynghrair yma yn un bwysig, roedd yn rhaid inni ennill heno ac fe wnaethon ni hynny. Mae’n rhaid inni edrych i fyny yn y gynghrair yn awr, nid i lawr”

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Dreigiau dros Connacht i’r degfed safle yn nhabl y RaboDirect Pro12. Ond maent yn parhau i fod 14 pwynt tu ôl i’r Scarlets yn y seithfed safle.