Mae’r Gleision wedi cyhoeddi eu bod am wynebu Ulster ar eu hen faes chwarae, Parc yr Arfau, nos Wener yma.

Hon fydd yr ail gêm yn olynol i’r rhanbarth chwarae ar Barc yr Arfau yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Connacht nos Wener diwethaf, ac mae’r dyfalu’n parhau ynglŷn â’u cynlluniau hirdymor i symud yn ôl i ganol y ddinas.

Er hynny, mae prif weithredwr y rhanbarth, Richard Holland wedi gwadu bod unrhyw gynlluniau i symud yn ôl o Stadiwm Dinas Caerdydd i Barc yr Arfau yn barhaol.

“Fel y dywedais nos Wener, does dim cynlluniau hirdymor  i symud yn ôl i Barc yr Arfau’n barhaol,” meddai Holland.

“Mae gennym les 20 mlynedd o hyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd, a dyw chwarae’r ddwy gêm yma ar Barc yr Arfau ddim yn cael unrhyw effaith ar y cytundeb hwnnw.”

Mwy o gemau ar Barc yr Arfau?

Er hynny, mae’r Cadeirydd wedi awgrymu y gallai’r rhanbarth chwarae rhagor o gemau ym Mharc yr Arfau yn y dyfodol.

“Mae rhai gemau’n fwy addas nac eraill i’w chwarae yn rhywle ar wahân i Stadiwm Dinas Caerdydd ac mae hyn yn rhywbeth i ni edrych arno wrth edrych ymlaen,” ychwanegodd.

“Rydym wedi trefnu cyfarfod Bwrdd ar gyfer dydd Gwener i drafod gweddill y tymor a byddwn yn adolygu’r sefyllfa ar gyfer tymor 2012/12.”

Achlysur gwych

Roedd Parc yr Arfau’n llawn dop ar gyfer y gêm yn erbyn Connacht, gyda 8,000 o gefnogwyr yn gwylio’r rhanbarth yn curo’r Gwyddelod o 22-15.

Dyma’r gêm gyntaf i’r rhanbarth ei chwarae yn eu hen stadiwm ers symud i’r un newydd yn 2009.

Mae’r Gleision wedi cadarnhau heddiw bod Cyngor Dinas Caerdydd wedi rhoi caniatâd i gynyddu nifer y tocynnau a ellir eu gwerthu ar gyfer y gêm nos Wener yma i 9,000.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i holl staff Parc yr Arfau a Stadiwm Dinas Caerdydd am weithio’n galed i wneud yn siŵr bod modd chwarae’r gêm ar Barc yr Arfau,” meddai Richard Holland.

“Buaswn hefyd yn hoffi diolch i’r holl gefnogwyr am droi fyny ar y noson a oedd yn achlysur gwych ac yn ganlyniad gwych ar y cae ac oddi arno. “