Aled Brew
Mae Cadeirydd rhanbarth y Dreigiau, Martin Hazell wedi beirniadu dylanwad asiantau ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod Aled Brew am ymuno â thîm Biarritz yn Ffrainc ar ddiwedd y tymor.

Roedd yn ymddangos fel petai Brew, oedd yn aelod o garfan Cymru yn ystod  Cwpan y Byd dros yr hydref, ar fin arwyddo cytundeb newydd i’w gadw ar Rodney Parade.

Ond cyhoeddodd Biarritz dros y penwythnos eu bod wedi sicrhau ei wasanaeth i chwarae yn Ffrainc am y ddwy flynedd nesaf.

Ergyd

Mae’r newyddion yn ergyd bellach i’r Dreigiau, sydd eisoes wedi gweld Jason Tovey yn arwyddo i’r Gleision a Luke Charteris i Perpignan yn ddiweddar.

Mae Martin Hazell wedi ymateb i’r newyddion heddiw gan fynegi ei ddicter ynglŷn â’r newyddion.

“Ry’n ni’n siomedig ofnadwy. Ry’n ni wedi bod yn trafod gydag Aled ers peth amser nawr,” meddai Hazell wrth BBC Sport.

“Roedden ni’n deall ei fod am arwyddo i ni. Ond mae llawer o’r penderfyniadau yma gan bobol yn cael eu gwneud gan bod asiantau yn cael eu talu am drosglwyddiadau i glybiau eraill.

“Os ydyn nhw’n ailarwyddo i ni dydyn nhw ddim yn cael eu talu felly maen nhw [asiantau]  yn gwneud eu gorau i’w symud nhw ymlaen i glybiau eraill.”