Gyda Gethin Jenkins yn ôl yn y rheng flaen, a’r Albanwyr wedi colli gêm ddiflas yn erbyn Lloegr, mae’n debyg fod gobeithion y Cymry o faeddu’i gwrthwynebwyr ddydd Sul yn rhai digon teg.
Mae tîm Cymru’n edrych yn gryf wedi’r fuddugoliaeth felys allan yn yr Iwerddon.
Ond yn dilyn colled dorcalonnus gartref yn erbyn Lloegr, mae’r Alban wedi datgan eu bwriad i chwarae gêm agored yn erbyn Cymru.
Er bod yr Albanwyr yn draddodiadol yn elwa os oes baw a glaw ar hyd y cae, mae’r capten Ross Ford wedi gofyn i gau’r to ar gyfer y gêm ddydd Sul.
“Roeddwn i wedi gofyn i’r to fod ar gau, fel ein bod ni’n cael pêl sych i fynd i chwarae fel y’n ni’n eisiau,” dywedodd y bachwr Ross Ford.
Laidlaw yn cymryd lle Dan Parks
Y newid mawr yn nhîm yr Alban yw bod Gregor Laidlaw yn cymryd lle Dan Parks yn safle’r maswr.
Cafodd Parks y bai am golled yr Alban yn erbyn ‘Yr Hen Elyn’ wedi iddo weld y bêl yn cael ei tharo lawr wedi iddo ei chicio, gan arwain at gais hynod feddal i Loegr – dyma drobwynt yr ornest honno.
Mae Gregor yn nai i Roy Laidlaw, cyn-fewnwr yr Alban a’r Llewod.
Yn wahanol i Parks, a oedd yn adnabyddus am ei gicio, mae Laidlaw yn cael ei weld fel rhedwr medrus fydd yn gallu cynnig opsiynau i olwyr yr Alban.
Bydd y Cymry’n gobeithio fod yr Alban heb ddarganfod Barry John newydd, a bod eu record boenus o fethu sgorio cais yn eu pedair gêm ddiwethaf yn parhau.
Bydd Geoff Cross yn cymryd lle Euan Murray yn y rheng flaen, gan fod Murray yn gwrthod chwarae ar y Sabath am resymau crefyddol.
YR ALBAN: R Lamont (Glasgow Warriors); L Jones (Caeredin), N De Luca (Caeredin), S Lamont (Sgarlets), M Evans (Castres); G Laidlaw (Caeredin), C Cusiter (Glasgow Warriors); A Jacobsen (Caeredin), R Ford (capt, Caeredin), G Cross (Caeredin), R Gray (Glasgow Warriors), J Hamilton (Caerloyw), A Strokosch (Caerloyw), R Rennie (Caeredin), D Denton (Caeredin).
EILYDDION: S Lawson (Caerloyw), E Kalman (Glasgow Warriors), A Kellock (Glasgow Warriors), J Barclay (Glasgow Warriors), M Blair (Caeredin), D Weir (Glasgow Warriors), S Hogg (Glasgow Warriors).