Capten Cymru, Sam Warburton
Mae Cymru wedi maeddu Iwerddon yn Nulyn o 23 pwynt i 21, ar ôl cais hwyr gan George North a chic gosb hwyrach fyth gan Leigh Halfpenny.
Roedd y crysau cochion wedi rheoli am rannau helaeth o’r gêm ond wedi methu â sawl cic gosb a throsiad, ac roedden nhw 21 – 15 ar ei hol hi â chwe munud i fynd.
Iwerddon darodd gyntaf â chic gosb gan y maswr Jonathan Sexton ar ôl i’r crysau gwyrdd lyncu Leigh Halpenny a’r bêl yn fuan ar ôl y chwiban.
Bu bron i Gymru gael cais drwy Ryan Jones yn syth wedyn ar ôl i Sam Warburton a Jamie Roberts eu harwain nhw i fyny’r cae. Ond penderfynodd y dyfarnwr fideo nad oedd y bêl wedi cyffwrdd â’r llawr.
Pum munud yn ddiweddarach daeth cais go iawn wrth i Rhys Priestland lwyddo i osgoi dau amddiffynnwr a rhoi’r bêl yn nwylo Jonathan Davies a sgoriodd yn y gornel.
Method Priestland y trosiad, cyn methu eto o flaen y pyst pum munud yn ddiweddarach ar ôl trosedd gan Jamie Heaslip.
Er gwaetha’r pwysau cynyddol doedd y pwyntiau ddim yn dod i Gymru a pan gafodd y Gwyddelod eu cyfle fe’i cymerwyd. Creodd Tommy Bowe le i Rory Best groesi ac fe giciodd Jonathan Sexton y trosiad o’r asgell i fynd 10-5 ar y blaen.
Daeth newyddion gwaeth i Gymru ar hanner amser wrth i’r capten Sam Warburton orfod gadael y cae ar ôl anafu ei goes. Daeth Justin Tipuric ymlaen yn ei le.
Llwyddodd Sexton â chic gosb arall yn syth ar ôl yr egwyl er mwyn ymestyn mantais y Gwyddelod, cyn i Priestland gael cyfle tebyg dros Gymru a gwneud smonach ohoni.
Dechreuodd Cymru frwydro’n ôl a hynny drwy Leigh Halfpenny a lwyddodd â’i gic gosb nesaf. Yn fuan wedyn sgoriodd Jonathan Davies ar ôl rhediad George North a llwyddodd Halfpenny â’r trosiad i fynd ar y blaen.
Ond fe aeth pethau o chwith i Gymru wedyn wrth iddynt wylio Sexton yn llwyddo â chic gosb arall, a wedyn un o’u chwaraewyr yn mynd i’r gell gosb. Roedd Bradley Davies yn lwcus i gael cerdyn melyn yn unig ar ôl tacl llawn mor beryglus ag un Warburton yn Seland Newydd.
Sgoriodd Tommy Bowe yn fuan wedyn ond methodd Jonathan Sexton â’r trosiad hollbwysig.
Dim ond chwe munud oedd yn weddill nes diwedd y gêm ac roedd gobeithion Cymru yn dechrau pylu. Sgoriodd North gais gyda chymorth Jamie Roberts a Jonathan Davies, ond methodd Halfpenny y trosiad.
Gyda munud i fynd cafodd Stephen Ferris gerdyn melyn am dacl peryglus a llwyddodd Leigh Halfpenny â’r gic gosb i roi Cymru ar y blaen.