Aaron Shingler (Llun gan y Scarlets)
Mae Warren Gatland wedi galw ar Aaron Shingler o’r Scarlets i ymuno â charfan Cymru.

Bydd Shingler yn ymuno â gweddill carfan Cymru yn eu gwersyll hyfforddi yng Ngwlad Pwyl.

Mae’r chwaraewr 24 oed wedi sefydlu ei le yn rheng ôl y Scarlets eleni, gan greu argraff gyda’i berfformiadau disglair.

Sgoriodd Shingler gais rhyfeddol yn erbyn Castres dros y penwythnos, gan wibio hyd y cae ar gyfer ail gais y Scarlets.

Mae gan Gatland broblemau yn safleoedd pump ôl y pac – mae’r chwaraewyr ail reng, Alun Wyn Jones a Luke Charteris eisoes wedi’i hanafu, tra bod amheuon am ffitrwydd y blaenasgellwr Dan Lydiate hefyd erbyn hyn.

Anafodd Lydiate ei ffêr yn ystod gêm y Dreigiau yn erbyn Cavalieri Prato yng Nghwpan Amlin dros y penwythnos.

Gall hyblygrwydd Shingler, sy’n gallu chwarae yn yr ail reng neu unrhyw le yn y rheng ôl, fod o fantais fawr iddo felly.

Mae’r newyddion yn eironig o ystyried bod brawd Aaron – sef cyn faswr y Scarlets, Steven – wedi bod yng nghanol ffrae rhwng Yr Alban a Chymru ynghynt yn y mis.

Roedd y maswr ifanc wedi’i enwi yng ngharfan Chwe Gwlad Yr Alban, ond, yn dilyn cwyn gan Undeb Rygbi Cymru, mae’n ymddangos nad yw’n gymwys bellach.