Stadiwm y Mileniwm
Mae pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer gêm Cymru v Ffrainc yn Stadiwm y Mileniwm ar Fawrth 17.

Dyma fydd gêm ola’ tîm Warren Gatland ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a fydd yn digwydd o flaen torf o 74,500.

Mae dros 100,000 o docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y ddwy gêm gartref arall hefyd yn erbyn yr Eidal a’r Alban.

Daeth 62,000 i Stadiwm y Mileniwm i weld Cymru’n colli yn erbyn Ffrainc yn rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd.