Malky Mackay
Mae rheolwr Caerdydd Malky Mackay wedi’i enwi’n Reolwr y Mis Pencampwriaeth Lloegr ar gyfer mis Tachwedd.

 Roedd yn fis gwych i’r Adar Gleision wrth iddyn nhw gipio 13 pwynt allan o 15 posib yn y gynghrair, yn ogystal â sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Blackburn yn y Cwpan Carling.

 Yn rhannu’r rhestr fer â Mackay oedd Sam Allardyce  o West Ham, Derek McInnes o Ddinas Bryste a Keith Hill o Barnsley.

 Cyflwynwyd y tlws i reolwr Caerdydd ar faes hyfforddi Caerdydd yn y Fro’r bore yma.

 Roedd chwaraewr canol cae yr Adarn Gleision, Peter Whittingham, wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Chwaraewr y Mis hefyd.

Billy Sharp o Doncaster gipiodd y teitl hwnnw.