Martin Johnson
Mae Martin Johnson wedi ymddiswyddo fel rheolwr tîm rygbi Lloegr.

Mae cyn gapten Lloegr wedi bod dan lawer o bwysau ers i Loegr golli i Ffrainc yn rownd y chwarteri yng nghystadleuaeth Cwpan Y Byd.

Buodd Johnson o dan arolygiaeth craff yr wythnos diwethaf, a arweiniwyd gan Rob Andrew, cyfarwyddwr Undeb Rygbi Proffesiynol, yn dilyn y penderfyniad i wahardd Mike Tindall o’r garfan oherwydd ei ymddygiad yn Seland Newydd.

Cafodd Tindall ddirwy o £25,000 am ei ymddygiad yn ystod noswaith allan yn Queenstown.  Yn ogystal cafodd Haskell ac Ashton dirwy o £5,000 am ddigwyddiad yng ngwesty’r garfan yn Queenstown.

Mae’r ffocws ar, ac oddi ar, y cae wedi ychwanegu pwysau ar Johnson, ac ar drothwy cyfarfod gyda phwyllgor yr Undeb i adolygu ymgyrch Cwpan Y Byd, fe benderfynodd Johnson ymddiswyddo.

Fe gymerodd Johnson yr awenau fel hyfforddwr tîm rygbi Lloegr yn Ebrill 2008 ac fe arweiniodd Lloegr i gipio teitl y chwe gwlad yn gynharach yn y flwyddyn cyn iddyn nhw gael ymgyrch siomedig yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd y tymor yma.