Yn dilyn agoriad addawol i gystadleuaeth Cwpan Heineken, fe fydd cefnogwyr y Scarlets yn teithio’n llawn hyder i Franklin’s Gardens i herio Northampton y penwythnos yma.

Roedd y fuddugoliaeth agos yn erbyn Castres, tîm llawn chwaraewyr rhyngwladol sy’n hedfan yng nghystadleuaeth Top 14 Ffrainc, yn un holl bwysig.

Er mwyn bod yn gystadleuol yn erbyn y goreuon rhaid ennill pob gêm gartref. Ond er mwyn cael eich ystyried yn fygythiad gwirioneddol i’r cewri hyn, rhaid cynnal y safon wrth deithio oddi-cartref. Dyna’r sialens sy’n wynebu bois tre’r sosban Nos Wener.

Yr hen â wyr…yr ifanc â wyr

Roedd yna arwyddion cadarnhaol iawn i’w cael o’r achlysur ym Mharc y Scarlets brynhawn ddydd Sadwrn diwethaf. Braf oedd gweld yr hen a’r ifanc yn cyfuno, yn enwedig ar gyfer cais neilltuol Ben Morgan.

Mae yna ddeg mlynedd a mwy o wahaniaeth rhwng Mathew Rees a George North. Ond roedd hi’n anodd gweld pa un o’r ddau oedd yn cael ei enwi fel y Jonah Lomu newydd, wrth i’r bachwr garlamu drwy’r tir agored cyn pasio’r bêl i George druan, oedd yn cael tipyn o waith dal i fyny a’i gapten.

Neges glir Northampton

Fel dilynwr o’r Scarlets mae’n anodd ar adegau i beidio â bod yn unllygeidiog. Ond rhaid cyfaddef er gwaethaf perfformiad gwych ein cochion ni, mae gornest orau’r rownd gyntaf oedd honno ym Mharc Thomond rhwng Northampton a gwŷr cochion Munster. Roedd hi’n glasur o gêm gyda throed dde ddibynadwy Ronan O’Gara yn cipio’r fuddugoliaeth yn yr eiliad olaf.

Er na fu Northampton yn ddigon ffodus i adael yr Ynys Werdd gyda buddugoliaeth hanesyddol i frolio amdani, fe all y pwynt bonws hwnnw fod yn werthfawr erbyn rownd olaf y grwpiau.

Maent hefyd wedi rhoi neges glir i’w gwrthwynebwyr bod gan y cyn-bencampwyr y potensial o fynd un cam ymhellach yn y gystadleuaeth nag y gwnaethant y llynedd.

Ond os oes un tîm o Gymru gyda’r gallu i chwarae gêm gyflym ac agored, a fydd yn sicr o flino blaenwyr mawr y gwrthwynebwyr, yna rwy’n bendant mae’r Scarlets yw’r tîm hwnnw a all achosi sioc.

Unwaith eto, gyda’r rheng flaen mae’r cyfrifoldeb. Rwy’n ffyddiog gall yr olwyr ifanc dawelu unrhyw fygythiad gan Foden ac Ashton o’r cefn.  Fe fydd tawelu’r anferthol Soane Tonga’uiha a Brian Mujati yn dipyn mwy o sialens. Ond nid sialens amhosib i wŷr y Gorllewin oresgyn.