Mae wythwr Cymru a’
Toby Faletau
r Dreigiau, Toby Faletau a’u bachwr Lloyd Burns wedi arwyddo cytundebau newydd sydd yn eu rhwymo i’r Dreigiau hyd 2014.

Mae Faletau wedi datblygu’n aruthrol ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r rhanbarth yn 2009 yn 18 oed. Cafodd ei enwi yn chwaraewr ifanc y flwyddyn yng nghynghrair Magners y tymor diwethaf ac efe yw’r chwaraewr cyntaf i ennill 7 cap o’r bron i Gymru yng nghystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd.

Dwy flynedd yn ôl roedd Lloyd Burns yn chwaraewr proffesiynol rhan amser ac yn chwarae yn uwch gynghrair rygbi Cymru i Bont y Pwl wrth weithio fel adeiladwr hefyd.

Mewn datganiad ar wefan y Dreigiau dwedodd Burns, “Roedd hwn yn benderfyniad hawdd i mi, Y Dreigiau yw fy rhanbarth ac rwy am aros gyda fy nhîm lleol.”

Bu’n rhaid i Lloyd Burns ohirio ei fis mel oherwydd ei ymroddiad i Gwpan y Byd a chyfaddefodd iddo orfod aros yn sobor yn ystod ei briodas cyn iddo ennill ei gap rhyngwladol cyntaf y diwrnod canlynol.

Nid oedd un o’i chwaraewyr Cwpan y Byd ar gael i’r Dreigiau dydd Sadwrn wrth iddynt golli’n drwm oddi cartref i Treviso o 50 – 24.

Fe fydd y Dreigiau yn croesawi’r Gleision i Rodney Parade y nos Wener yma.