Andy Morrell
Wrecsam 2-1 Caerefrog
Rwyn cofio i Man Utd gael eu barnu am beidio chwarae eu tim cryfaf yn nghwpan yr FA. Man Utd enillodd y gwpan y flwyddyn honno.
Roeddynt yn barod i beryglu eu lle yn y gystadleuaeth oherwydd eu bod eisiau ceisio ennill cynghrair y pencampwyr a’r Uwchgynghrair. Ychydig flynyddoedd yn ôl fe farnwyd y Cymro Tony Pulis am chwarae tim gwan yn y gystadleuaeth, roedd ef am orffwyso chwaraewyr i geisio aros yn yr uwchgyngrair.
Ddydd Sadwrn roedd Wrecsam yn wynebu Caerefrog ar y Cae Ras. Gorffwysodd Caerefrog saith chwaraewr ar gyfer y gem. Mae’n nhw’n dweud bod y hud yn diflannu o bel droed ac mae hyn yn brawf o hynny.
Oherwydd anafiadau yn nghanol cae fe gychwynnodd Wrecsam gyda Johnny Hunt a Joe Clark. Chwaraeodd y ddau yn arbennig o dda.
Roedd yr hanner cyntaf yn fler iawn. Roeddwn yn poeni ychydig wedi gweld bod Jamie Reed (cyn chwaraewr Wrecsam a Bangor) yn y tim gan ei fod yn arbennig yn y gem ar gychwyn y tymor ble enillodd Caerefrog o 3 gol i ddim. Amddiffynodd Creighton a Knight Percival yn arbennig fodd bynnag ac ychydig iawn o lwyddiant gafodd ymosodwyr Caerefrog.
Y peth amlycaf yn yr hanner cyntaf oedd nifer y cardiau melyn. Bu 6 cerdyn yn fuan iawn yn y gem a oedd yn peri poendod na fyddai 22 chwaraewr ar y cae. Fe galliodd y dyfarnwr cyn hanner amser ac ni chafwyd mwy. Yr oedd yr hanner cyntaf yn ddiflas gyda Wrecsam yn amddiffynol gadarn ond heb lawer o ddychymyg wrth ymosod.
Pum munud wedi hanner amser fe groesodd Joe Clark gic rhydd i’r cwrt cosbi a sgoriodd Knight Percival gyda pheniad bendigedig. Honno oedd ei bedwaredd o’r tymor. A’i bedwaredd mewn pum gem.
Ond wedi trosedd wirion yr oedd Caerefrog yn gyfartal 8 munud yn ddiweddarach gyda chic rydd Pat McLaughlin yn cropian drwy wal wael.
Roedd y cefnogwyr yn dechrau poeni gyda Wrecsam yn methu amryw o gyfleon ond yn ffodus mae gennym reolwr rhagweithiol sy’n dod oddi ar y fainc, mynnu’r bel gan Johnny Hunt, taro’r bel ar draws y cwrt i David McGurk i roi’r bel i gefn ei rwyd ei hun.
Roedd y rhyddhad yn amlwg. Cafwyd newyddion gwych arall gwta awr ar ôl y gem gyda Andy Morrell yn cael ei enwi yn reolwr Wrecsam tan ddiwedd y tymor.
Ddydd Sul roedd gemau rownd cyntaf cwpan yr FA yn cael eu penderfynu. Mae Wrecsam yn chwarae Caergrawnt yng Nghaergrawnt sydd yn gem anodd iawn a bod yn onest.
Byddwn wedi hoffi gem yn erbyn Charlton, Sheffield Wednesday neu United i gael llawer o arian tocynnau, neu dim bychan iawn i ni gael gem haws ond bydd y gem yn erbyn Caergrawnt yn sialens gref. Gobeithio na fydd ganddynt barch i’r gystadleuaeth a byddant yn rhoi gorffwys i amryw o’u chwaraewyr.