Y Gleision a oedd yn fuddugol mewn gêm o ddau hanner ym Maes Chwarae Galway nos Sadwrn. Roedd y Cymry un ar ddeg pwynt ar ei hôl hi ar hanner amser ond roedd dau gais cynnar yn yr ail hanner i Alex Cuthbert a Casey Laulala yn ddigon i osod y sylfaen ar gyfer y fuddugoliaeth i’r ymwelwyr.

Dechrau Da Connacht

Dechreuodd Connacht yn llawn menter a chawsant eu haeddiant wedi dim ond dau funud o chwarae, lledwyd y bêl yn gyflym a chroesodd  yr asgellwr Tiernan O’Halloran ar yr asgell chwith. Ychwanegodd y maswr, Niall O’Connor y ddau bwynt er mwyn rhoi mantais gynnar o 7-0 i’r tîm cartref.

Ond tarodd y Gleision yn ôl yn y deg munud wedyn ac roeddynt yn llawn haeddu’r tri phwynt a gawsant o droed Dan Parks wedi 12 munud. Serch hynny, adferodd O’Connor y saith pwynt o fantais i Connacht funud yn unig yn ddiweddarach.

Enillodd y Gleision dir da o’r ail ddechreuad ac yn y diwedd daeth cic gosb wedi i’r blaenwyr cartref arafu’r bêl mewn ryc yng nghysgod y pyst, a llwyddodd Parks gyda’r gic i’w gwneud hi’n 10-6. Ond methodd y maswr gyda chic hawdd ychydig funudau yn ddiweddarach ac arhosodd y bwlch yn bedwar pwynt.

Ymestynnodd Connacht eu mantais gydag ail gais y gêm wedi 27 munud. Dewisodd y Gwyddelod fynd am y gornel yn hytrach na’r pyst a chawsant eu gwobrwyo gyda chais i Mike McCarthy. Daliodd y clo’r bêl yn y llinell a chadw ei afael arni yn y sgarmes rydd cyn tirio. Ychwanegodd O’Connor y ddau bwynt i’w gwneud hi’n 17-6 ac felly yr arhosodd hi hyd hanner amser.

Ond er gwaethaf y sgôr roedd y Gleision yn llwyddo i reoli’r tir tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf ac roedd pethau’n argoeli’n addawol ar gyfer yr ail.

Laulala yn Serennu

Ac yn wir, fu dim rhaid iddynt aros yn hir cyn dod yn ôl i’r gêm. Y Gleision yn ymosod yn gynnar a Casey Laulala yn dadlwytho yn wych i Alex Cuthbert a’r asgellwr yn sgorio yn y gornel wedi munud o’r ail hanner. Llwyddodd Parks gyda’r trosiad o’r ystlys a dim ond pedwar pwynt oedd ynddi bellach, 17-13.

Ddau funud yn ddiweddarach roedd y Gleision ar y blaen diolch i waith da yng nghanol y cae gan Laulala unwaith eto a’r canolwr yn croesi’r gwyngalch ei hunan y tro hwn. Trosodd Parks y cais ac roedd y Glesion ar y blaen o 20-17 yn gynnar yn yr ail hanner.

Twt Twt Tito

Anfonwyd capten y Gleision, Paul Tito i’r gell gosb wedi 55 munud am arafu pêl Connacht mewn ryc, ond er i’r rhanbarth o Iwerddon unioni’r sgôr gyda thri phwynt o’r gic gosb ganlynol methodd Connacht fanteisio ym mhellach yn ystod y deg munud. Yn wir, y Gleision a aeth ar y blaen yn ystod absenoldeb Tito, Parks yn llwyddo gyda chic gosb wedi 64 munud.

A sicrhaodd Parks y fuddugoliaeth i’r tîm o Gaerdydd gyda gôl adlam naw munud o’r diwedd wrth iddi orffen yn 26-20 i’r Gleision.

Roedd y Gleision yn llawn haeddu’r fuddugoliaeth ac mae’r pedwar pwynt yn dod a’u rhediad gwael i ben ac yn eu cadw yn y pedwerydd safle yn y tabl.