Roedd un cais ym mhob hanner yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth dda i’r Scarlets yn erbyn yr ymwelwyr o Ulster ym Mharc y Scarlets brynhawn Sadwrn. Tiriodd Liam Williams yn hwyr yn yr hanner cyntaf ac Adam Warren yn hwyr yn yr ail wrth i’r Scarlets drechu’r Gwyddelod o 24-17.

Hanner Cyntaf Cryf

Aeth Ulster ar y blaen wedi naw munud diolch i gic gosb o droed ei maswr, Ian Humphries. Ac er i  Aled Thomas fethu un cyfle i unioni’r sgôr llwyddodd gyda’i ail gyfle yn fuan wedyn cyn llwyddo gyda chic gosb arall i roi’r Scarlets 6-3 ar y blaen bedwar munud cyn yr egwyl.

Roedd hi’n ymddangos y byddai hi’n aros felly tan hanner amser ond yna, yn eiliadau olaf yr hanner gorffennodd yr asgellwr, Liam Williams symudiad da gan y Scarlets er mwyn rhoi ei dîm ym mhellach ar y blaen. Ychwanegodd Thomas y ddau bwynt ac aeth y rhanbarth o Gymru i mewn i’r ystafell newid ar yr hanner 13-3 ar y blaen.

Mwy o Newyddion Da

Newyddion da i’r Scarlets ar yr egwyl felly ond roedd newyddion gwell fyth wedi chwe munud o’r ail hanner wrth i fachwr Cymru a’r Llewod, Matthew Rees ddychwelyd i’r cae yn dilyn anaf.

Ond er gwaethaf yr hwb yma i’r tîm cartref Ulster a sgoriodd nesaf gyda chic gosb arall gan Humphries wedi 50 munud. Ciciodd Humphries dri phwynt arall wedi 56 munud ychydig eiliadau wedi i Thomas ychwanegu tri at gyfanswm y Scarlets, 16-9 ar yr awr.

Dim ond trosgais a oedd ei angen ar Ulster i unioni pethau erbyn hyn a chawsant y cais wedi 64 yn dilyn cic letraws wych gan y mewnwr, Ruan Pienaar a gwaith da gan yr asgellwr, Andrew Trimble yn tirio’r bêl. Ond yn ffodus i’r Scarlets tarodd trosiad Humphries y postyn ac arhosodd y Cymry ar y blaen o 16-14.

Diweddglo Agos

Byddai rhywun wedi maddau i’r Scarlets am chwarae’n saff a cheisio cadw’r meddiant yn y deg munud olaf ond er clod iddynt fe aethant amdani gan roi pwysau trwm ar linell Ulster a chawsant eu gwobrwyo chwe munud o’r diwedd gyda chais i’r canolwr, Adam Warren. Ond methodd Thomas y trosiad felly dim ond un sgôr oedd rhwng y ddau dîm o hyd.

Yn fuan wedyn, daeth Dan Newton i’r cae yn lle Thomas a llwyddodd yntau gyda’i gynnig cyntaf at y pyst er mwyn rhoi’r Scarlets 24-14 ar y blaen.

Roedd digon o amser i Humphries ennill pwynt bonws i’r ymwelwyr gyda thri phwynt arall ond roedd y fuddugoliaeth yn saff i dîm Tre’r Sosban, 24-17 y sgôr terfynol.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Scarlets i’r seithfed safle yn nhabl y RaboDirect Pro12 ac y mae pethau’n argoeli’n dda i’r rhanbarth o’r gorllewin gyda chymaint o chwaraewyr rhyngwladol i ddychwelyd dros yr wythnosau nesaf.