Derbyniodd y Dreigiau grasfa go iawn yn y Stadio di Monigo heddiw wrth i Treviso ennill o 50-24. A gallai’r sgôr fod wedi bod yn llawer gwaeth oni bai am ddau gais cysur hwyr i’r Cymry.

Y Sêr yn Gwneud Gwahaniaeth

Doedd sêr Cwpan y Byd y Dreigiau ddim yn barod i ddychwelyd i’r tîm heddiw ond roedd Treviso ar y llaw arall yn croesawu nifer o’i chwaraewyr rhyngwladol yn ôl, ac un o’r rheiny, y blaenasgellwr, Alessandro Zanni sgoriodd gais cyntaf o saith y tîm cartref wedi 5 munud.

Croesodd yr asgellwr, Brendan Williams am ei gais cyntaf ef o’r gêm dri munud yn ddiweddarach cyn sgorio ei ail wedi 16 munud. Llwyddodd Kris Burton gyda’r tri throsiad cynnar ac roedd Treviso ar y blaen o 21-0 gyda llai na chwarter y gêm wedi ei chwarae.

Sgoriodd y Dreigiau eu pwyntiau cyntaf pan lwyddodd yr eilydd, Jason Tovey gyda chic gosb wedi 26 munud ond adferodd Burton y fantais o 21 pwynt gyda chic gosb i Treviso wedi hanner awr. Ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser, 24-3 o blaid y tîm cartref.

Tarodd y Dreigiau yn ôl yn fuan yn yr ail hanner gyda chais cyntaf Tonderai Chavhanga yn y Pro12 a throsiad Tovey.

Pwynt Bonws i’r Eidalwyr

Dim ond dwy sgôr oedd ynddi bellach ond diffoddwyd unrhyw fflam o obaith a oedd gan y Dreigiau gyda phedwerydd cais Treviso wedi 46 munud, y cefnwr, Ludovico Nitoglia yn croesi ac yn sicrhau pwynt bonws cyntaf erioed i Treviso yn y Pro12 yn y broses.

Roedd y fuddugoliaeth yn saff i Treviso erbyn hyn ond doedd dim gorffwys i’r Dreigiau wrth i’r Eidalwyr ychwanegu 19 pwynt arall gyda thri chais i dri eilydd mewn 5 munud. Tiriodd Tobias Botes wedi 65 munud ac yna Robert Barbieri wedi 68 munud cyn i Paul Derbshire sgorio’r seithfed gyda deg munud yn weddill. 50-10 i’r Eidalwyr a’r Dreigiau’n cochi.

Adfer Hunan-barch

Ond llwyddodd y Dreigiau i adfer ychydig o hunan-barch a rhoi gwedd ychydig bach mwy parchus ar y sgôr gyda dau gais hwyr. Daeth y cyntaf o’r rheiny wedi 74 munud wrth i Chavhanga sgorio’i ail o’r gêm a daeth yr ail i’r maswr, Steffan Jones dri munud o’r diwedd. Llwyddodd Tovey gyda’r ddau drosiad wrth iddi orffen yn 50-24 i Treviso.

Diweddglo calonogol i’r Cymry efallai ond 70 munud trychinebus cyn hynny. Mae’r Dreigiau yn disgyn i’r unfed safle ar ddeg yn y tabl o ganlyniad a dim ond y tîm arall o’r Eidal, Aironi sydd oddi tanynt.