Glasgow 28-17 Gweilch

Colli fu hanes y Gweilch yn Firhill nos Wener er gwaethaf perfformiad cicio gwych gan eu maswr ifanc, Matthew Morgan yn yr hanner cyntaf.

Roedd y Gweilch ar y blaen o 12-6 ar yr egwyl diolch i gicio di lychwin Morgan ond methodd y rhanbarth o Gymru reoli’r tir yn yr ail hanner a bu’n rhaid iddynt dalu’n ddrud am ddiffyg disgyblaeth wrth i Glasgow daro’n ôl tra’r oedd Richard Hibbard yn y gell gosbi.

Morgan yn Meistroli

Glasgow sgoriodd gyntaf a hynny’n gynnar yn y gêm, Ian Evans yn troseddu yn y ryc a maswr Glasgow, Duncan Weir yn manteisio gyda chic lwyddiannus at y pyst, Glasgow ar y blaen o 3-0 wedi dwy funud.

Ond tarodd y Gweilch yn ôl wedi saith munud, maswr ifanc y Gweilch, Matthew Morgan yn unioni’r sgôr gyda chic gosb yn dilyn trosedd yn y sgrym gan Glasgow. Enillodd sgrym y Gweilch gic gosb arall bedair munud yn ddiweddarach a llwyddodd Morgan gyda chic wych o’r llinell hanner i roi ei dîm 6-3 ar y blaen.

Ymestynnodd Morgan fantais y Gweilch i chwe phwynt wedi 17 munud yn dilyn dwylo yn y ryc gan Glasgow. Ac roedd y fantais yn naw pwynt toc wedi’r hanner awr yn dilyn mynydd o gic gan y maswr bach. Ildiodd Glasgow gic gosb ar linell deg medr y Gweilch a chosbodd Morgan hwy gyda chic anhygoel o bron i 60 medr.

Ond Glasgow a reolodd y tir a’r meddiant tuag at ddiwedd yr hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu cau’r bwlch i chwe phwynt ar yr egwyl gyda chic olaf yr hanner gan Weir, 12-6 i’r Gweilch ar hanner amser.

Glasgow yn taro’n Ôl

Caeodd Glasgow’r bwlch i dri phwynt yn gynnar yn yr ail hanner diolch i gic gosb arall gan Weir ac roedd hi’n gyfartal ychydig cyn yr awr wrth i’r maswr lwyddo eto wedi i’r dyfarnwr cynorthwyol weld tacl uchel gan y Gweilch yng nghanol y cae. 12-12 gyda chwarter y gêm ar ôl.

Yna, newidiodd y gêm wrth i Richard Hibbard dderbyn cerdyn melyn dadleuol am ddod i mewn i’r ryc o’r ochr. Manteisiodd Glasgow yn llawn ar eu un dyn o fantais trwy sgorio 13 pwynt cyn i’r bachwr ddychwelyd.  I ddechrau daeth cais i’r clo, Richie Gray yn dilyn dadlwythiad da gan ei gapten Rob Harley – trosodd Weir y cais cyn ychwanegu dwy gic gosb mewn deg munud dinistriol.

Roedd y mewnwr newydd o Samoa, Kahn Fotuali’i wedi dod ymlaen fel eilydd i’r Gweilch yn gynnar yn yr ail hanner ond methodd a chreu llawer o argraff ac yn wir, ei ddwylo ef yn y ryc a ildiodd y gyntaf o’r ddwy gic gosb. Trosodd Weir hi cyn ychwanegu’r ail gyda chic a oedd bron iawn mor hir â chic Morgan yn yr hanner cyntaf. 25-12 i Glasgow gyda deg munud yn weddill felly ar gêm wedi llithro o afael y Gweilch.

Llwyddodd Weir gyda chic gosb arall funud cyn y chwiban olaf cyn i Morgan sgorio cais cysur i’r Gweilch gyda symudiad olaf y gêm. Gorffennodd y gêm yn 28-17 o blaid Glasglow a thaith hir yn ôl i’r Liberty o flaen y Gweilch.

Er gwaethaf y golled mae’r Gweilch yn aros ar frig y RaboDirect Pro12 ond bydd y rhanbarth o Gymru yn hynod siomedig i golli eu record 100% gyda pherfformiad mor siomedig yn yr ail hanner.

Adroddiad gan Gwilym Dwyfor Parry