Bydd Tommy Bowe yn rhengoedd y Gweilch heno
Wedi pythefnos yn chwarae yng nghwpan L.V. mae rhanbarthau Cymru yn troi eu sylw yn nôl at gemau Cynghrair Geltaidd y Pro 12 y penwythnos yma.

Glasgow v  Gweilch 7:05pm (BBC2 Cymru)

Mae’r Gweilch yn teithio i Glasgow gyda record 100% yn y gynghrair hyd yma.

Gyda Dan Biggar yn dioddef o anaf i’w goes, mae cyfle arall i Mathew Morgan yn safle’r maswr wedi ei berfformiad ‘Seren y gêm’ yn erbyn Northampton yr wythnos ddiwethaf.

Fe fydd y Gweilch yn gobeithio sicrhau eu canfed buddugoliaeth yn y gystadleuaeth, a dim ond Munster a Leinster sydd wedi cyrraedd y garreg filltir yna mor belled.

Yn dechrau ei gêm gyntaf i’r Gweilch y tymor yma fydd y Gwibiwr Gwyddelig Tommy Bowe, tra bod Ryan Bevington yn dechrau’r gêm ar y fainc. Hefyd bydd dau o chwaraewr rhyngwladol Samoa yn gobeithio gwneud eu hymddangosiad cyntaf i’r rhanbarth o’r fainc, yr wythwr George Stowers a’r mewnwr/maswr Kahn Fotuali’i.

Fe fydd Glasgow yn gobeithio codi o’r pumed safle wrth i’w chwaraewyr rhyngwladol ddychwelyd o Gwpan y Byd, gan gynnwys eu capten Alastair Kellock.

 Benetton Treviso v Dreigiau Casnewydd Gwent 2pm Sadwrn

Dyw’r Dreigiau heb guro oddi cartrefi yn y gynghrair ers mis Chwefror. Gyda Treviso wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn y gynghrair, yn erbyn Glasgow, y Scarlets ac Ulster, fe fydd hi’n dalcen caled i’r gwŷr o Went.

Am y tro cyntaf y tymor yma mae carfan lawn o chwaraewyr proffesiynol  llawn amser ar gael i’r Dreigiau. Bu’n rhaid i’r mewnwr Wayne Evans dynnu allan yn hwyr oherwydd salwch. Fe fydd Joe Bedford yn cymryd ei le a James Leadbeater yn cael ei gynnwys ar y fainc.

 Scarlets v Ulster 3pm Sadwrn

 Fe fydd tre’r sosban yn croesawu eu bachwyr yn ôl i Barc y Scarlets wrth i Ken Owens ddychwelyd i’r 15 cyntaf a’r profiadol Mathew Rees yn ôl i eistedd ar y fainc, wedi anaf i’w wddf.

Mae’r Scarlets ar rediad o dair buddugoliaeth o’r bron ond heb drechu’r un tîm o Iwerddon ers deng mis.

Mae Ulster wedi eu cryfhau wrth i’w chwaraewyr rhyngwladol ddychwelyd o Seland Newydd, ac fe fydd y Scarlets yn fwy ymwybodol na neb o fygythiad y mewnwr o Dde Affrica, Ruan Piennar, wedi iddo gipio’r fuddugoliaeth gyda chic olaf y gêm y tro diwethaf i’r ddau yma gwrdd ar Barc y Scarlets.

Mae Ulster, fel y Gweilch, yn cwrso eu canfed buddugoliaeth yn y gystadleuaeth yma.

 Connacht v Gleision Caerdydd  6pm Sadwrn (S4C)

 Y tro diwethaf i Connacht  golli gartref oedd yn erbyn y Gleision ym mis Ebrill. Er na fu’r un chwaraewr o’u carfan yn cynrychioli’r Iwerddon yng Nghwpan y Byd eleni, fe fyddan nhw’n croesawu’r canolwr Henry Fa’afilli yn ôl, wedi iddo gystadlu yn Seland Newydd gyda Samoa. Maen nhw wedi arwyddo’r asgellwr rhyngwladol Fetu’u Vainkolo o Tonga hefyd.

Dim ond un o’u Chwe gêm ddiwethaf mae’r Gleision wedi ennill. Fe gawson nhw grasfa yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn y Scarlets a Newcastle. Er hyn maen nhw’n bedwerydd yn y gynghrair. Mae’r Gleision yn croesawu dau chwaraewr a fuodd yng Nghwpan y Byd yn ôl i’w tîm, gyda Dan Parks yn cymryd awenau’r maswr a’r prop Taufa’ao Filise yn ôl i’r rheng flaen.