Mae Gareth Davies, cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, wedi bod yn egluro’r broses arweiniodd at y penderfyniad i ganslo gêm Cymru yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 14).
Fe fu’r Undeb dan y lach ar ôl cryn oedi cyn cyhoeddi na fyddai’r gêm yn cael ei chynnal, oriau’n unig ar ôl dweud y byddai’n mynd yn ei blaen – er bod nifer o gampau wedi cyhoeddi bod gemau’n cael eu canslo neu eu gohirio.
Wrth gyhoeddi bod y gêm wedi’i chanslo, dywedodd Gareth Davies fod yr Undeb yn destun “beirniadaeth” yn sgil “cyhoeddusrwydd”, gyda Phlaid Cymru ymhlith y rhai oedd yn galw am ganslo’r gêm.
“Fe fu’n wythnos anodd,” meddai wrth y BBC.
“Roedden ni’n amlwg wedi dilyn cyngor y llywodraeth ganolog, Llywodraeth Cymru yn nhermau’r dystiolaeth wyddonol a meddygol ac roedd hynny’n wir tan neithiwr (nos Iau) pan wnaethon ni gwrdd i ystyried popeth.
“Roedden ni’n dal i feddwl mai rhoi ystyriaeth i’r cyngor oedd y ffordd orau ymlaen.
“Roedd yr Uwch Gynghrair, er enghraifft, yn mynd yn ei blaen ond roedd hynny wedi newid, efallai am resymau amlwg.
“Dilynodd y Gynghrair Bêl-droed drywydd tebyg, felly hefyd gêm Celtic-Rangers, felly dw i’n meddwl ein bod ni wedi cael ein hunain yn destun beirniadaeth ar gyfer y firws a’r cyhoeddusrwydd.
“Fe wnaethon ni siarad y bore ’ma â’r llywodraeth, oedd yn deall ein safbwynt.”
Mae Undeb Rygbi’r Alban yn dweud y byddan nhw’n mynd adref cyn gynted â phosib, ac yn deall penderfyniad Undeb Rygbi Cymru.