Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi disgrifio Alun Wyn Jones a Richie McCaw fel “chwaraewyr anferthol” wrth iddyn nhw baratoi i rannu record byd.
Bydd capten Cymru, Alun Wyn Jones yn chwarae yn ei 148fed gêm brawf, sy’n cynnwys pan fydd yn arwain Cymru allan yn erbyn yr Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Mawrth 14).
Bydd yn dod yn gyfartal â chyn-gapten Seland Newydd Richie McCaw o ran chwarae mewn gemau rhyngwladol.
Ac mae’n bosib y gallai’r Cymro 34 oed dorri’r record yn Eden Park, Auckland pan fydd Cymru draw yn Seland Newydd yn ystod yr haf.
“Mae’n bleser gweithio gydag ef, dyna’r ffordd hoffwn i bob chwaraewr fod,” meddai Wayne Pivac am ei gapten.
“Dw i’n meddwl ei fod yn chwaraewr penigamp ac yn arweinydd i’w dîm, a dyw e ddim yn dangos ei oedran gyda’r ffordd mae’n hyfforddi. Mae ganddo ddyfodol mawr yn y gêm.”
Disgwyl gêm anodd yn erbyn yr Alban
Mae Wayne Pivac yn disgwyl gornest anodd yn erbyn yr Alban, gyda thîm Gregor Townsend yn cyrraedd Caerdydd wedi dinistrio gobeithion Ffrainc am Gamp Lawn y penwythnos diwethaf.
“Daethon yr Alban yn agos iawn i guro Iwerddon, a llwyddon nhw i gael buddugoliaeth gyfforddus yn yr Eidal,” meddai.