Fe fydd prif hyfforddwr a dau o chwaraewyr tîm rygbi Lloegr yn darganfod yr wythnos hon a fyddan nhw’n cael eu cosbi am gyfres o ddigwyddiadau a sylwadau yn dilyn y gêm yn erbyn Cymru yn Twickenham ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 7).
Enillodd y Saeson o 33-30 ond roedd cysgod dros yr ornest yn sgil sawl digwyddiad.
Bydd yn rhaid i Manu Tuilagi fynd gerbron panel disgyblu ar ôl cael ei anfon o’r cae am dacl beryglus ar George North yn niwedd y gêm, ac fe allai gael ei wahardd am hyd at chwech wythnos.
Gallai Joe Marler gael ei gosbi am gyffwrdd genitalia Alun Wyn Jones, capten Cymru, ar ôl i’r swyddogion fethu â gweld y digwyddiad ar y pryd, gyda gwaharddiad o hyd at chwe mis yn bosib.
Ac fe allai Eddie Jones, y prif hyfforddwr, gael ei gosbi am awgrymu bod y dyfarnwr Ben O’Keefe yn rhagfarnllyd yn erbyn y Saeson, gan ddweud mai gornest “13 dyn yn erbyn 16” oedd hi ar ôl i Ellis Genge hefyd gael ei anfon o’r cae am ddeng munud am gamsefyll bwriadol.
“Pan fo gyda chi fantais o dri dyn, rydych chi’n mynd i wneud peth niwed,” meddai Eddie Jones yn ei sylwadau ar ôl y gêm.
“Roedd gyda ni anfantais o ran niferoedd, felly roedd hi’n anodd.”
Roedd e hefyd yn feirniadol o’r penderfyniad i ddanfon Manu Tuilagi o’r cae.
Fe allai wynebu cyhuddiad o ddwyn anfri ar y gêm, a allai arwain at rybudd, dirwy neu waharddiad o’r stadiwm.
Mae gan drefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 48 awr ar ôl gêm i gyflwyno unrhyw gyhuddiadau yn erbyn chwaraewyr neu hyfforddwyr.