Mae Alun Wyn Jones yn galw am ymchwiliad ar ôl i Joe Marler, prop Lloegr, afael yn ei genitalia yn ystod y gêm yn erbyn Cymru yn Twickenham ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 7).
Chafodd y prop mo’i gosbi ar y pryd gan nad oedd y dyfarnwr na’i gynorthwywyr wedi gweld y digwyddiad, er bod capten Cymru’n ymbil arnyn nhw i droi at y dyfarnwr fideo yn ystod hanner cynta’r gêm danllyd.
Mae’n bosib iawn y bydd y comisiynydd disgyblu’n ymchwilio i’r digwyddiad, ac y gallai Joe Marler gael ei wahardd am hyd at chwe mis.
Rhwystredigaeth
Ar ôl y gêm, mynegodd Alun Wyn Jones ei rwystredigaeth ynghylch y sefyllfa.
“Dw i wedi chwarae mewn 138 o gemau prawf dros fy ngwlad,” meddai.
“Os dw i’n ymateb, dw i’n cael cerdyn coch.
“Mae’n anodd, on’d yw e?
“Gobeithio y bydd World Rugby yn edrych arno fe.
“Mae Joe yn foi da, mae llawer o bethau’n digwydd ar y cae rygbi.
“Mae’n anodd fel capten y dyddiau yma oherwydd mae’n teimlo fel na allwch chi siarad â’r dyfarnwr am ddim byd.
“Dw i’n edrych ar y llumanwr ac mae’n amlwg nad oedd e wedi gweld beth ddigwyddodd, ac mae hynny’n iawn.
“Mae tipyn o ddeunydd sydd wedi cael ei ddangos.
“Mae’n ymddangos bod llawer o gefnogwyr wedi gweld beth ddigwyddodd.
“Mae’n rhwystredig iawn ein bod ni’n siarad dipyn am swyddogion teledu ac adolygu deunydd ond eto, does dim llawer ohono fe’n digwydd.”