Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cael ergyd cyn Ewro 2020 gyda’r newyddion fod Joe Allen yn debygol o golli’r gystadleuaeth oherwydd anaf.

Daeth y chwaraewr canol cae oddi ar y cae yng ngêm Stoke yn erbyn Hull ddoe (dydd Sadwrn, Mawrth 7) ar ôl rhwygo gwäellen ffêr.

Fe gwympodd yn lletchwith ar ddiwedd hanner cynta’r fuddugoliaeth o 5-1 yn y Bencampwriaeth ar ôl cael ei daclo gan Dan Batty.

Cafodd y Cymro Cymraeg, sydd wedi ennill 56 o gapiau dros ei wlad, ei enwi ymhlith chwaraewyr gorau’r gystadleuaeth bedair blynedd yn ôl yn Ffrainc, wrth i’r tîm cenedlaethol gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Daeth cadarnhad ar ôl y gêm na fydd e’n chwarae i’w glwb am weddill y tymor, ac y bydd yn rhaid iddo fe gael llawdriniaeth.