Colli’n rhacs a wnaeth merched Cymru heddiw ar ôl i’r Saeson eu curo 66-7.

Llwyddodd Lloegr i sgorio 10 cais yn y gêm, gan gynnwys hatric gan Poppy Cleall.

Cais cosb yn yr ail hanner oedd unig lwyddiant Cymru yn y gêm, ac mae’r merched yn dal heb ennill yr un gêm y tymor yma.

Y gêm yn Twickenham Stoop oedd unig gêm chwe gwlad y merched i gael ei chwarae’r penwythnos yma, ar ôl i’r gemau yn Glasgow a Dulyn gael eu gohirio oherwydd ofnau am y coronafeirws.

Mae un o ferched tîm yr Alban wedi profi’n bositif i’r haint a dywed undeb rygbi’r wlad ei bod yn derbyn triniaeth mewn uned arbenigol, ond yn iach fel arall. Mae saith arall o aelodau staff yr undeb wedi hunan-ynysu.