Dreigiau 25–37 Benetton
Roedd buddugoliaeth bwynt bonws i Benetton wrth iddynt ymweld â Rodney Parade i herio’r Dreigiau yn y Guinness Pro14 nos Wener.
Croesodd yr Eidalwyr am bedwar cais ar noson fwdlyd yng Nghasnewydd.
Hanner Cyntaf
Dechreuodd yr Eidalwyr ar dân gyda dau gais yn y chwarter awr agoriadol. Roedd y cyntaf yn un da wrth iddynt ymosod o’u hanner eu hunain, Luca Sperandio yn croesi wedi gwaith da Angelo Esposito ar yr asgell dde.
Sgarmes symudol a arweiniodd at yr ail i’r bachwr, Thomas Baravalle, ac roedd yr ymwelwyr 14 pwynt ar y blaen wedi ail drosiad llwyddiannus Ian Keatley.
Cafwyd ymateb da gan y Dreigiau gyda dwy gic gosb o droed Jacob Botica a dim ond pedwar pwynt a oedd ynddi ar hanner amser diolch i drosgais gan y tîm cartref ym munud olaf yr hanner. Rhodri Williams a groesodd o dan y pyst ond roedd y diolch i gyd i fylchiad anhygoel gan y prop, Josh Reynolds!
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner, fel y cyntaf, gyda chais i Benetton, Esposito’n bylchu o’r llinell hanner ar yr ochr dywyll, yn torri dwy dacl cyn llusgo tri amddiffynnwr gydag ef dros y gwyngalch i sgorio.
Ar ôl sgorio trydydd yr ymwelwyr, yr asgellwr a oedd ar fai am y cais a roddodd y Dreigiau yn ôl yn y gêm ddeuddeg munud o’r diwedd, yn taflu’r meddiant i ffwrdd i roi cais ar blât i Will Talbot-Davies.
Os roddodd hynny lygedyn o obaith i’r tîm cartref, fe ddiflannodd hwnnw pan groesodd Epalahame Faiva i sicrhau’r pwynt bonws i’r Eidalwyr.
Golygodd hynny mai rhy ychydig rhy hwyr a oedd cais Elliot Dee ym munud olaf y gêm, 25-37 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn bumed yn nhabl adran A y Pro14.
.
Dreigiau
Ceisiau: Rhodri Williams 39’, Will Talbot-Davies 69’, Elliot Dee 80’
Trosiadau: Jacon Botica 39’, Arwel Robson 69’
Ciciau Cosb: Jacob Botica 19’, 23’
Cerdyn Melyn: Harrison Keddie 49’
.
Benetton
Ceisiau: Luca Sperandio 5’, Thomas Baravalle 14’, Angelo Esposito 41’, Epalahame Faiva 75’
Trosiadau: Ian Keatley 6’, 14’, 42’, 75’
Ciciau Cosb: Ian Keatley 35’, 58’, 68’