Fydd y prop pen rhydd Mako Vunipola ddim ar gael i wynebu Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Mawrth 7), yn ôl Matt Proudfoot, hyfforddwr blaenwyr Lloegr.
Yn ôl adroddiadau, mae’n ei ynysu ei hun yn sgil pryderon am coronavirus ar ôl bod yn Hong Kong ar ei ffordd yn ôl o Tonga.
Roedd disgwyl i brop y Saraseniaid ddychwelyd i’r tîm ar ôl iddo gael ei gynnwys yn y garfan hyfforddi ddydd Llun (Mawrth 2).
“Dyw Mako ddim gyda ni, mae ganddo broblem feddygol felly ni fydd o ar gael ar gyfer y penwythnos,” meddai Matt Proudfoot.
Yn wreiddiol, roedd disgwyl iddo fethu’r ornest yn erbyn Cymru oherwydd ei fod teithio i Tonga am resymau personol.
Pan gafodd Matt Proudfoot ei holi a fydd Mako Vunipola yn chwarae rhan yng ngweddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni, dywedodd eu bod nhw “am ei chymryd hi un wythnos ar y tro.”
Mae ei absenoldeb yn golygu mai Joe Marler ac Ellis Genge fydd opsiynau prop pen rhydd Eddie Jones ar gyfer yr ornest yn Twickenham.
Trechodd Cymru Loegr o 21-13 yn y Bencampwriaeth y llynedd.