Daeth cadarnhad fod Rhys Webb yn ymuno â Chaerfaddon tan ddiwedd y tymor.

Daw hyn ar ôl iddo adael Toulon fis diwethaf, a chyn iddo symud i’r Gweilch y tymor nesaf.

Bydd yn ymuno ag wythwr Cymru Talupe Faletau, sydd eisoes yn chwarae i Gaerfaddon.

Gyda 32 cap dros ei wlad, yn ogystal â thaith gyda’r Llewod, mae Caerfaddon yn gobeithio y gall Rhys Webb roi hwb i’r tîm wrth iddyn nhw anelu am y pedwar uchaf yng Nghynghrair Gallagher.

“Rydym wedi cyffroi bod talent rhyngwladol yn ymuno â’r grŵp, yn ychwanegu dyfnder safon i’n safle mewnwr mewn adeg allweddol o’r flwyddyn, ac ar ôl i ni golli Max Green fis diwethaf,” meddai Stuart Hooper, Cyfarwyddwr Rygbi Caerfaddon.

Fe fydd yn ymuno â Chaerfaddon ar unwaith, ac fe allai chwarae mor fuan â’r gêm ddarbi yn erbyn Bristol Bears ddydd Sul (Mawrth 1).