Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, wedi dweud na fydd yn “mynd i banig” ar ôl i Gymru gael eu trechu gan Iwerddon o 24-14 ym Mhencapwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn (Chwefror 8).
Bydd Cymru’n herio Ffrainc yn Stadiwm Principality ymhen 13 diwrnod (Chwefror 23).
“Dy’n ni’n bendant ddim am fynd i banig,” meddai Wayne Pivac.
“Mae’n rhaid i ni adolygu’r gêm. Mae’r hogiau wedi eu siomi oherwydd wnaethon ni ddim cymryd ein cyfleon.”
Y golled yn Nulyn oedd y tro cyntaf i Gymru golli gêm yn y Bencampwriaeth ers i Iwerddon eu curo ddwy flynedd yn ôl.
Ar ôl chwarae yn erbyn Ffrainc, bydd Cymru’n teithio i Twickenham i herio Lloegr cyn gorffen y bencampwriaeth gartref yn erbyn yr Alban.
“Mae’r gystadleuaeth yn mynd i fod yn dynn iawn eleni. Mae hynny’n amlwg yn barod.”