Mae Wayne Pivac yn dweud bod Nick Tompkins yn haeddu ei le yng nghanol cae i dîm rygbi Cymru, wrth iddyn nhw deithio i Ddulyn i herio Iwerddon ddydd Sadwrn (Chwefror 8).

Sgoriodd canolwr y Saraseniaid gais ar ôl dod i’r cae yn eilydd yn ystod y fuddugoliaeth o 42-0 yn erbyn yr Eidal yr wythnos ddiwethaf.

Ac wrth gadw ei le, mae’n gwthio George North i’r asgell, a Johnny McNicholl i’r fainc.

“Roedd yn ymwneud â gallu a’r gêm gafodd Nick Tompkins,” meddai’r prif hyfforddwr wrth y wasg.

“Ro’n i’n meddwl ei fod e wedi chwarae’n dda iawn ac yn haeddu dechrau, a dyna gaiff e.

“Roedden ni hefyd yn hapus â gêm George North.”

Cymeriad Nick Tompkins

Yn ôl Wayne Pivac, mae gan Nick Tompkins y rhinweddau i lwyddo ar y lefel uchaf.

“Ry’n ni’n gweld hynny bob dydd wrth ymarfer, a’r ffordd mae’n cynnal ei hun oddi ar y cae.

“Mae e’n broffesiynol dros ben.

“Mae e’n cario’i hun yn arbennig o dda, ac mae e wedi creu argraff.

“Gobeithio y bydd e’n gwneud cystal wrth ddechrau’r gêm.”

Cysondeb

Er bod cryn sôn y gallai Wayne Pivac wneud nifer o newidiadau i’r tîm, mae’n dweud ei fod e’n awyddus i sicrhau cysondeb ar ail benwythnos y gystadleuaeth.

“Roedden ni hefyd yn hapus gyda gêm George.

“Ond roedden ni eisiau cadw pethau’n eitha’ cyson.

“Ar y cyfan, fe gawson ni’r hyn roedden ni ei eisiau allan o’r gêm.

“Roedd rhannau o’r gêm roedden ni eisiau edrych arnyn nhw, ac ry’n ni wedi gwneud hynny yr wythnos hon.”