Mae Gareth Wyatt, hyfforddwr olwyr tîm rygbi merched Cymru, yn ffyddiog y gall ei dim ddatrys nifer o broblemau cyn wynebu Iwerddon y penwythnos nesaf.
Daw’r rhybudd fod “nifer o wersi i’w dysgu” ar ôl iddyn nhw golli o 19-15 yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd ddydd Sul (Chwefror 2).
“Fe wnaethon ni ddangos perfformiadau da yn unigol ac fel tîm yn erbyn Yr Eidal ac mae llawer i adeiladu arno,” meddai Gareth Wyatt.
“Mae angen i ni ddal ati.
“Er y siom amlwg, roedd yna nifer o bethau calonogol i gymryd o’r gêm yn erbyn Yr Eidal – roedd ein hymdrech amddiffynnol yn rhagorol trwy gydol y gêm.”
“Ond, mae nifer o wersi i’w dysgu er mwyn paratoi ar gyfer y gêm galed sy’n ein wynebu yn Iwerddon y penwythnos nesaf.”
Yn ôl Gareth Wyatt y gwahaniaeth rhwng Yr Eidal a Chymru oedd bod yr Eidalwyr yn chwarae yn yr ardaloedd cywir.
“Y wers fwyaf o’r gêm oedd bod angen i ni geisio cadw meddiant. Mae’n amhosib i ni dreulio 70% o’r gêm yn yr ardaloedd anghywir a disgwyl dod i’r brig.”
“Mae angen i ni fod yn fwy cywir gyda’r bêl, er mwyn treulio mwy o amser yn hanner y gwrthwynebwyr.”
“Bwrlwm” o gwmpas gêm y merched
“Mae bwrlwm o gwmpas y gêm yng Nghymru ar hyn o bryd,” meddai Gareth Wyatt.
“Ar brydiau roeddem yn chwarae rygbi safonol iawn, a chawsom gipolwg o’r hyn rydym yn gallu ei wneud yn enwedig wrth ymosod. Does ond angen i ni ei gynhyrchu yn amlach”.
Dywedodd capten Cymru, Siwan Lillicrap ei bod hi’n falch o weld ei thîm yn chwarae dros ei gilydd. Diolchodd hefyd am y gefnogaeth ym Mharc yr Arfau ddydd Sul: “Roedd hi’n gêm o safon uchel ac roedd yr awyrgylch yn wych,” meddai.
“Mae mwy i ddod gennym yn y bencampwriaeth ac rydym yn gobeithio y bydd cyhoedd yn parhau i ddilyn ein taith.”
Bydd tîm Merched Cymru yn wynebu Iwerddon yn Donnybrook ddydd Sul.