Mae prif hyfforddwr Cymru Wayne Pivac yn disgwyl gornest llawer iawn anoddach na’r Eidal pan fydd Cymru’n herio Iwerddon ddydd Sadwrn (Chwefror 8).

Dechreuodd Cymru Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda buddugoliaeth gyfforddus o 42-0 yn erbyn yr Eidal ddydd Sadwrn (Chwefror 1).

Bydd chwaraewyr Cymru’n teithio i Ddulyn gyda’r gobaith o ennill ei nawfed gêm yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond Iwerddon oedd y tîm diwethaf i guro Cymru yn y bencampwriaeth, bron i ddwy flynedd yn ôl.

Hon fydd trydedd gêm Wayne Pivac wrth y llyw, wedi i Gymru drechu’r Barbariaid a’r Eidal.

“Mae’n bendant yn mynd i fod yn gêm lawer iawn anoddach na’r rhai rydym wedi eu chwarae hyd yn hyn,” meddai Wayne Pivac.

“Mae yno lot o waith angen cael ei wneud gan fod y perfformiad yn erbyn yr Eidal yn bell o fod yn berffaith, er bod y sgôr yn edrych yn dda.”

Enillodd Cymru’r Gamp Lawn wrth guro Iwerddon o 25-7 yng Nghaerdydd fis Mawrth diwethaf.