Mae Siwan Lillicrap, capten tîm rygbi merched Cymru, yn dweud ei bod hi’n siomedig ar ôl i’w thîm golli o 19-15 yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghaerdydd.

Sgoriodd Melissa Bettoni gais cynta’r gêm i’r ymwelwyr cyn i Hannah Jones daro’n ôl gyda chais i Gymru.

Sgoriodd Maria Magatti a Sofia Stefan geisiau i’r Eidalwyr yn yr ail hanner, cyn i Kelsey Jones gadw Cymru yn y gêm hyd y diwedd gyda chais hwyr.

Ond fe fu’n rhaid i Gymru amddiffyn am rannau helaeth o’r gêm dan bwysau gan yr ymwelwyr, a allai fod wedi sgorio dau gais arall tua dechrau’r gêm, dim ond i’r dyfarnwr fideo benderfynu nad oedden nhw’n geisiau dilys.

Roedd gan Gymru fantais o 10-5 ar yr hanner, ond arhosodd yr Eidalwyr yn gryf yn ystod yr ail hanner gan sgorio dau gais annilys arall yn yr ail hanner wrth i amddiffyn Cymru chwalu.

Ymdrech

“Ry’n ni’n amlwg yn siomedig gyda’r canlyniad heddiw, ond fe ddaethon ni’n ôl yn y 15 munud diwethaf gyda rygbi ymsodol da,” meddai Siwan Lillicrap.

“Wnaethon ni ddechrau yn y modd yna, ond fe fu’n rhaid i ni amddiffyn am ran fwya’r gêm.

“Ond yr hyn alla i ddim ei feirniadu yw ymdrech y merched heddiw.

“Rhaid i ni ddechrau edrych ar ôl y bêl yn well.”

Mae sylw Cymru bellach yn troi at daith i Iwerddon ddydd Sul nesaf (Chwefror 9).

“Mae gyda ni wythnos fawr o ymarfer ar gyfer Iwerddon yr wythnos nesaf,” meddai’r capten wedyn.

“Mae llawer o bethau positif y gallwn ni fynd gyda ni o’r gêm hon, a phethau y gallwn ni eu trwsio hefyd.

“Felly rydyn ni’n edrych ymlaen at yr wythnos sydd i ddod, a herio Iwerddon ddydd Sul nesaf.”