Mae Nick Tompkins, canolwr newydd tîm rygbi Cymru, yn dweud bod emosiwn ei gêm gyntaf yn y crys coch wedi ei yrru yn ei flaen yn erbyn yr Eidal yng Nghaerdydd ddoe (dydd Sadwrn, Chwefror 1).
Daeth e i’r cae fel eilydd i Johnny McNicholl, un arall oedd wedi ennill ei gap cyntaf yn y gêm.
A doedd hi ddim yn hir cyn iddo ddathlu ei gais cyntaf yn y crys coch, ar ôl i’r clo Cory Hill fylchu a phasio’r bêl i Dan Biggar i greu bwlch i Nick Tompkins.
“I fy mam-gu oedd hynny,” meddai am bwyntio’i fys tua’r nen ar ôl croesi am y cais.
“Hi yw’r rheswm dw i yma,” meddai’r chwaraewr a gafodd ei eni yn Sidcup am ei fam-gu a gafodd ei geni yn Wrecsam.
Methu rheoli ei emosiynau
Mae’n cyfaddef iddo deimlo’n emosiynol iawn ymhell cyn camu i’r cae, wrth iddo gyrraedd Stadiwm Principality.
Ac fe wnaeth hynny ferwi drosodd ar y cae wrth iddo ddathlu’r cais wedyn.
“Doedd gyda fi ddim rheolaeth dros hynny,” meddai.
“Es i’n blanc. Emosiwn oedd y dathliad hwnnw, a rhywfaint o or-bryder a rhyddhad ar yr un pryd.
“Roedd yn un o’r pethau hynny wna i fyth ei anghofio.
“Ro’n i eisiau camu i’r cae a chyfrannu, a gwneud yn dda.
“Dydych chi ddim yn disgwyl i bethau fel hyn ddigwydd, mae’n anhygoel.”
Teimlo’n gartrefol
Er ei gysylltiadau Cymreig, roedd Nick Tompkins yn disgwyl chwarae dros Loegr tan yn ddiweddar iawn.
Ar ôl codi drwy’r rhengoedd, y gred oedd y byddai’n cael ei ddewis gan Eddie Jones a Lloegr ar gyfer y Chwe Gwlad.
Ond cafodd Cymru wybod am ei gysylltiadau Cymreig yn dilyn cynhadledd i’r wasg yn y Saraseniaid, pan wnaeth y prif hyfforddwr Mark McCall grybwyll fod ei fam-gu yn dod o Wrecsam.
Er yr ansicrwydd a’r cyffro, mae Nick Tompkins yn dweud ei fod e’n gartrefol yng Nghymru.
“Ro’n i’n bryderus wrth ddod i mewn i garfan newydd gyda bois newydd ac yn y blaen, ond mae’r hyfforddwyr wedi bod yn wych, mae’r chwaraewyr wedi bod yn wych.
“A dw i ddim jest yn dweud hynny – maen nhw’n groesawgar iawn, yn fois da sydd wedi fy nghymryd i o dan eu hadain.”
Chwarae i’r Saraseniaid yn “amhrisiadwy”
Mae’n dweud bod cael chwarae i glwb y Saraseniaid yn Lloegr yn ei wella fel chwaraewr.
“Mae’r profiad gewch chi o fod gyda’r Saraseniaid a’r holl chwaraewyr mawr hynny’n amhrisiadwy,” meddai.
“Oherwydd rydych chi’n dod yma [i Gymru] ac yn amlwg, mae’n gam i fyny, ond rydych chi’n gyfarwydd â chaeau mawr ac achlysuron mawr.
“Ac rydych chi’n cael cryn dipyn o fewnwelediad i sut mae’r chwaraewyr hynny’n llwyddo fel bod gyda chi’r un math o chwaraewyr sy’n gweithio yn yr un ffordd broffesiynol pan ddewch chi yma, felly mae’n haws ffitio i mewn.
“Mae jest yn help.”
Wayne Pivac yn canu ei glodydd
Yn dilyn ei berfformiad, roedd y prif hyfforddwr Wayne Pivac yn barod iawn i ganu ei glodydd.
“Dangosodd Nick Tompkins yn ystod ei gyfnod ar y cae fod ganddo fe dipyn o dalent, cryn dipyn o allu a dyna pam ein bod ni’n barod iawn i ddod ag e ymlaen fel eilydd pan wnaethon ni yn yr ail hanner.
“Mae llawer o bobol nawr yn gwybod pwy yw Nick Tompkins.”