Mae’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, Richard Parks, o fewn trwch blewyn i dorri record Brydeinig am sgïo i Begwn y De.
Roedd e o fewn pum milltir i’r pegwn fore heddiw (dydd Mercher, Ionawr 15) ar ôl bod yn sgïo trwy eira trwm a thymheredd isel dros ben ers 28 diwrnod.
Mae’r cyn-flaenasgellwr, oedd wedi chwarae i Bontypridd, y Rhyfelwyr Celtaidd, y Dreigiau a Leeds, wedi sgïo mwy o filltiroedd ar ei ben ei hun heb gymorth nag unrhyw un arall erioed.
Erbyn diwedd ei daith, fe fydd e wedi bod yn sgïo am fwy na 29 diwrnod, 19 awr a 24 munud, gan dorri’r record wnaeth e ei gosod yn 2014.
Fe adawodd e arfordir yr Antarctig am 11.23yb ar Ragfyr 17, gyda digon o fwyd i’w gynnal am 25 diwrnod, a dydy hi ddim yn glir faint o fwyd sydd ganddo ar ôl erbyn hyn.
Mae e wedi dringo mwy na 2,800m uwchben lefel y môr, sef dwywaith uchder mynydd Ben Nevis.
Yn 2011, Richard Parks oedd y person cyntaf i ddringo mynydd uchaf pob un o saith cyfandir y byd a sefyll ar begynnau’r De a’r Gogledd o fewn blwyddyn galendr, ac mae’r gamp wedi cael lle yn y Guinness Book of Records.