Gleision 3-30 Scarlets

Buddugoliaeth swmpus i’r Scarlets a gafwyd yn Stadiwm Dinas Caerdydd heddiw wrth i ddau ranbarth o Gymru gwrdd yn y cwpan Eingl-gymreig.

Dim ond tri phwynt sgoriodd y tîm cartref drwy gydol yr wyth deg munud tra sicrhaodd yr ymwelwyr bwynt bonws gyda phedwerydd cais yn hwyr yn y gêm wrth iddi orffen yn 30-3.

Gwnaeth y Scarlets argraff yn gynnar diolch i gais Adam Warren, y canolwr ifanc yn croesi wedi dau funud yn unig o’r gêm. Llwyddodd Aled Thomas gyda’r trosiad er mwyn rhoi mantais gynnar o saith pwynt i’r tîm o Lanelli.

Ychwanegodd Thomas gic gosb wedi 10 munud i roi’r Scarlets 10-0 ar y blaen. Ac roeddynt ymhellach ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner yn dilyn cais i’r bachwr, Kirby Myhill. Methu fu hanes Thomas gyda’r trosiad y tro hwn ond roedd mantais Scarlets yn un iach iawn, 15-0.

Llwyddodd y Gleision i gofnodi eu pwyntiau cyntaf toc wedi hanner awr o chwarae, cic gosb o droed Rhys Patchell yn lleihau mantais yr ymwelwyr i 12 pwynt, 15-3 o blaid y Scarlets ar yr egwyl.

Distaw iawn oedd hi o ran sgorio yn yr ail hanner. Trosodd Thomas dri phwynt arall i’r Scarlets i’w rhoi dair sgôr ar y blaen wedi awr o chwarae. Ac roedd hynny’n ddigon i dorri calonnau’r gleision ifanc a dim ond halen ar y briw oedd dau gais hwyr arall i’r Scarlets.

Daeth y cyntaf o’r ddau hynny i’r blaenasgellwr, Rhichie Pugh wedi 68 munud cyn i’r wythwr, Keiron Murphy goroni’r cyfan gyda chais gorau’r gêm i gipio’r pwynt bonws bum munud cyn y diwedd. Torrodd yr eilydd o gefnwr, Dan Newton trwy dacl cyn dadlwytho i’r blaenwr sgorio o dan y pyst. Trosodd Thomas y cais hwnnw er mwyn ei gwneud hi’n fuddugoliaeth gyfforddus o 30-3 ar y diwedd.

Yr unig newyddion drwg i’r Scarlets yn ystod y gêm oedd anaf difrifol yr olwg i’r asgellwr, Dale Ford. Disgynnodd y chwaraewr ifanc yn lletchwith ar ôl neidio i ddal pêl uchel a bu rhaid iddo adael y cae ar stretsier ac yn derbyn ocsigen.

Ar wahân i hynny diwrnod da iawn o waith i’r bois o’r gorllewin a dechrau hynod addawol iddynt yn y Cwpan LV eleni.