Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr newydd tîm rygbi Cymru, yn dweud bod ei dîm eisoes yn adeiladu ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn y gwanwyn.

Dechreuodd ei gyfnod wrth y llyw gyda buddugoliaeth o 43-33 yn Stadiwm Principality dros y Barbariaid, oedd yn cael eu hyfforddi gan ei ragflaenydd a’i gydwladwr Warren Gatland.

Sgoriodd Cymru chwe chais.

“Roedd yn wych o’n safbwynt ni,” meddai Wayne Pivac ar ôl y gêm.

“Rydyn ni wedi cael wythnos gyda’n gilydd erbyn hyn ac wedi adeiladu ar gyfer sut rydyn ni eisiau chwarae yn y Chwe Gwlad.

“Mae’r bois wedi gwneud tipyn o waith ac roedd yna lot o ddysgu’n digwydd allan yna.

“Mae cael treulio’r wythnos gyda’n gilydd, nid yn unig ar y cae ymarfer ond yn yr amgylchfyd yn gyffredinol, wedi bod yn wych.

“Byddwn ni’n adolygu’r gêm ac yn gweld sut wnaeth y bois ond fe fydd y wybodaeth ar gael yn barod ar gyfer y penderfyniadau ar gyfer carfan y Chwe Gwlad.”

Ffarwelio â Warren Gatland

Daeth cyfnod Warren Gatland wrth y llyw yng Nghwpan y Byd yn Japan, wrth i Gymru gyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Yn ystod 12 mlynedd wrth y llyw, enillodd Cymru dair Camp Lawn a phedwar teitl yn y Chwe Gwlad, gan gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd ddwy waith.

“Ro’n i wrth fy modd yn ystod fy nghyfnod yng Nghymru, a dw i wedi bod wrth fy modd yr wythnos hon,” meddai.

“Ro’n i eisiau mwynhau’r achlysur a mynegi fy niolchgarwch o ran faint dw i wedi mwynhau fy 12 mlynedd yma.

“Ond do’n i ddim eisiau mynd yn rhy emosiynol.

“Roedd yr emosiwn yno o ran bod y peth yn dod i ben a gwybod fod yna her arall i ddod.”