Gweilch 13–18 Cheetahs
Colli fu hanes y Gweilch wrth iddynt groesawu’r Cheetahs i’w cartref dros dro ar y Gnol yng Nghastell Nedd nos Sadwrn.
Mae tymor anodd y Gweilch yn y Guinness Pro14 yn parhau ar ôl i’r ymwelwyr o Dde Affrica ennill gêm glos.
Croesodd yr ymwelwyr am gais cyntaf y noson wedi wyth munud, William Small-Smith yn sgorio.
Cyfnewidiodd Luke Price a Ruan Pienaar gic gosb yr un wedi hynny cyn i gais Ma-fau Fia unioni pethau i’r Gweilch, y prop yn dangos ei gryfder i hyrddio drosodd.
Ychwanegodd Price y trosiad ac roedd y Gweilch ddau bwynt ar y blaen ar hanner amser.
Felly yr arhosodd hi tan chwarter awr o’r diwedd pan wthiodd pac y Cheetahs Wilmar Arnoldi drosodd am eu hail gais o’r noson.
Rhoddodd trosiad Schoeman bum pwynt o fantais i’r ymwelyr ac er i Price daro nôl gyda chic gosb, ymatebodd Schoeman gyda thri phwynt a daliodd yr ymwelwyr eu gafael tan y diwedd i sicrhau buddugoliaeth fain, 13-18 y sgôr terfynol.
Roedd hynny’n ddigon am bwynt bonws i’r Gweilch, pwynt sydd yn eu cadw o waelod tabl adran A, maent yn aros yn chweched.
.
Gweilch
Cais: Ma-fau Fia 23’
Trosiad: Luke Price 24’
Ciciau Cosb: Luke Price 12’, 73’
.
Cheetahs
Ceisiau: William Small-Smith 8’, Wilmar Arnoldi 66’
Trosiad: Tian Schoeman 68’
Ciciau Cosb: Ruan Pienaar 17’, Tian Schoeman 76
Cerdyn Melyn: Sintu Manjezi 80’