Mae Warren Gatland yn haeddu pob clod am adael “etifeddiaeth wych” cyn ei gêm olaf wrth y llyw yn brif hyfforddwr, meddai’r hyfforddwr cicio, Neil Jenkins.

Fe fydd amser Warren Gatland yn dod i ben yn Tokyo fory (dydd Gwener, Tachwedd 1) pan fydd Cymru’n herio Seland Newydd yn y gêm am y trydydd safle yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Hon fydd gêm olaf Steve Hansen yn brif hyfforddwr y crysau duon hefyd.

“Mae Warren yn ddyn anhygoel,” meddai Neil Jenkins. “Nid yn unig yn ei allu a’i ddealltwriaeth o rygbi, ond fel person hefyd.

“Rwy’n credu ei fod yn gadael etifeddiaeth wych o ran ei ganlyniadau a’i lwyddiant ers dod yma yn 2008, a gyda datblygiad cymaint o chwaraewyr ifanc sydd wedi dod drwodd.”

Dyw Cymru ddim wedi curo Seland Newydd ers 1953.