Mae George North yn dweud nad yw “eirfa yn ddigon da i ddisgrifio” y teimlad pe bai tîm rygbi’n cyrraedd rownd derfynol Cwpan Rygbi’r Byd.

Dim ond gêm yn erbyn De Affrica yn Yokohama sydd rhyngddyn nhw a lle yng ngêm fwya’r byd yn erbyn Lloegr ymhen wythnos.

Dechreuodd yr asgellwr ei yrfa ryngwladol yn erbyn De Affrica yn 2010, pan sgoriodd e ddau gais.

Ers hynny, mae e wedi ennill y Chwe Gwlad a’r Gamp Lawn, ac wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan y Byd yn 2011.

Bydd e’n ennill cap rhif 91 ddydd Sul (Hydref 27).

“Dw i ddim yn meddwl bod fy ngeirfa’n ddigon da i ddisgrifio hynny!” meddai am y posibilrwydd o gyrradd y ffeinal.

“Yn amlwg, roedd 2011 yn anhygoel, roedden ni un cam i ffwrdd o le’r ydan ni rwan yn 2015 ac, o’n safbwynt ni, mae’r bois yn barod i fynd.

“Rydan ni’n gwybod yr heriau sydd o’n blaenau ni, rydan ni’n gwybod pa mor dda mae De Affrica’n chwarae a’r effaith maen nhw wedi’i chael, a dw i’n credu y bydd hi’n enfawr.

“Mae teimlad gwell i hon [na 2011].

“O’n safbwynt ni, rydan ni’n falch o fod yma, ac ar ben ein digon o fod ymhlith y pedwar olaf.”

Mae Liam Williams a Josh Navidi allan o’r gystadleuaeth erbyn hyn, ond mae Jonathan Davies wedi gwella o anaf i’w ben-glin i gymryd ei le yn y canol gyda Hadleigh Parkes.

Mae Leigh Halfpenny yn dechrau yn safle’r cefnwr, a Ross Moriarty yn chwarae yn safle’r wythwr yn lle Josh Navidi.