Fe fydd hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robyn McBryde, yn aros yn Japan yn dilyn marwolaeth ei fam, Diana.
Dywedodd y Cymro o Fôn nad oedd “neb yn fy nghefnogi mwy na fy mam” ac mae wedi diolch i Ward Cybi, Ysbyty Gwynedd am “y gofal a’r sylw arbennig gafodd fy mam”.
Bydd Cymru yn herio De Affrica yn rownd gyn-derfynol cystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd ddydd Sul (Hydref 27).
Fe sicrhaodd y crysau cochion eu lle ymhlith y pedwar olaf yn dilyn gêm agos (20-19) yn erbyn Ffrainc deuddydd yn ôl.
Aros yn Japan
“Dw i wedi derbyn cefnogaeth wych o’r tîm a’r rheolwyr draw fan hyn, a gyda chefnogaeth fy nheulu nôl adre mae’n caniatáu imi aros yn Japan,” meddai cyn-fachwr Cymru.
“Doedd neb yn fy nghefnogi mwy na fy mam, ac fel gydag unrhyw riant, byddai hi eisiau’r gorau i mi, felly dw i’n gwybod fy mod i yn union le byddai hi eisiau i mi fod.
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb yn Ward Cybi, Ysbyty Gwynedd, am y gofal a’r sylw arbennig gafodd fy mam.”