Mae Warren Gatland yn gorffwys 13 o dîm cyntaf Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Wrwgwai ddydd Sul (Hydref 13).

Y canolwr Hadleigh Parkes ar asgellwr Josh Adams ydi’r unig chwaraewyr ddechreuodd y gêm yn erbyn Awstralia, sydd yn y tîm i wynebu Wrwgwai.

Bydd Justin Tipuric yn arwain Cymru wedi i Warren Gatland ei enwi fel capten ar gyfer yr ornest.

Dywed Warren Gatland: “Rydym yn hyderus fod gennym y chwaraewyr i allu newid pethau o gwmpas os oes angen.”

Cymru: Leigh Halfpenny; Josh Adams, Owen Watkin, Hadleigh Parkes, Hallem Amos; Rhys Patchell, Aled Davies; Nicky Smith, Ryan Elias, Dillion Lewis, Bradley Davies, Adam Beard,             Aaron Shingler, Justin Tipuric (capten), Aaron Wainwright.

Eillyddion: Elliot Dee, Rhys Carre, Wyn Jones, Jake Ball, Ross Moriarty, James Davies, Tomos Williams, Gareth Davies.