Dywed Robin McBryde fod Cymru “mewn lle da, ond gallwn wella” wrth i’r garfan baratoi am yr ornest yn erbyn Ffiji ar Hydref 9.
Bydd carfan Cymru yn dychwelyd i ymarfer llawn amser ddydd Gwener (Hydref 4) wedi ychydig o ddyddiau o orffwys.
Yn ôl Robin Mcbryde mae pethau wedi ei uwcholeuo o’r fuddugoliaeth dros Awstralia y bydd Cymru yn gweithio arnynt.
“Rydym yn gwybod y gallwn wella eto, mae yno bethau penodol rydym yn teimlo y gallwn eu gwella,” meddai.
Mae’r ffaith ein bod wedi cael buddugoliaeth dda yn erbyn tîm all gystadlu am Gwpan y Byd wedi ein rhoi mewn lle da.”
“Fiji yn her enfawr”
Bydd Cymru yn ymwybodol o Gwpanau Byd blaenorol pa mor beryg y gall Fiji fod.
Collodd Cymru yn erbyn Fiji yng Nghwpan y Byd 2007.
Dywed Robin McBryde: “Bydd Fiji yn her enfawr i ni. Hon fydd eu gêm olaf nhw yn y grŵp, does ganddynt ddim byd i’w golli ac mae hynny’n eu gwneud yn dîm hynod o beryglus.”