Mae Tom Lawrence wedi ei enwi yng ngharfan Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol yn erbyn Slofacia a Croatia.
Daw hyn ychydig dros wythnos ar ôl iddo gael ei gosbi am yfed a gyrru ac achosi gwrthdrawiad yn ei Range Rover Sport.
Mae’r ymosodwr sy’n chwarae i Derby County eisoes wedi ennill 20 cap dros ei wlad.
Aaron Ramsey ac Ashley Williams yn dychwelyd
Y newyddion da i Gymru yw bod Aaron Ramsey bellach yn holliach ac yn ôl yn y garfan.
Mae Ashley Williams, a ddechreuodd ytymor heb glwb, cyn ymuno â Bristol City, hefyd yn dychwelyd.
Mae asgellwr Schalke Rabi Matondo hefyd yn y garfan wedi iddo sgorio ei gôl gyntaf yn y Bundesliga y penwythnos diwethaf.