Fydd “dim ots” fod tîm rygbi Cymru wedi curo Awstralia oni bai eu bod yn curo Ffiji wrth fynd am le yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd, yn ôl yr is-hyfforddwr Robin McBryde.

Gallai Cymru orffen ar frig y grŵp, gyda gemau yn erbyn Ffiji ac Wrwgwái i ddod, a’r tebygolrwydd yw y byddan nhw’n wynebu naill ai Ffrainc neu’r Ariannin yn rownd yr wyth olaf.

Maen nhw’n herio Ffiji ymhen wythnos, ar ôl curo Awstralia a Georgia hyd yn hyn.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n cael y ddwy fuddugoliaeth,” meddai Robin McBryde.

“Fydd dim ots am y ddwy gêm gyntaf os na orffennwn ni’r gwaith, felly rhaid i ni fynd o gwmpas ein pethau mewn ffordd broffesiynol iawn ac edrych ar un gêm ar y tro.

“Rydan ni’n gwybod fod Ffiji yn medru bod yn dîm peryglus ar y diwrnod.

“Doeddan nhw ddim ar eu gorau yn erbyn Wrwgwái, ond yn yr hanner cyntaf yn erbyn Awstralia, mi ddangoson nhw gip o’r hyn fedran nhw ei wneud.”

Croeso cynnes

Fe fu’r garfan yn ymweld â llyn Biwa wrth dreulio ychydig ddiwrnodau i ffwrdd o’r byd rygbi, ac mae Robin McBryde yn dweud iddyn nhw gael croeso cynnes.

“Roedd y croeso gawson ni’n wych. Cyn mynd ar y cwch, roedd tyrfa enfawr yn croesawu ni, ac roedd y plant ysgol yn curo drymiau, oedd yn wych, ac mae’r croeso hwnnw’n gwneud i chi deimlo’n gartrefol, mewn gwirionedd.

“Aethon ni ar hyd y bae, ond roedd hynny’n ddigon. Roedd o’n dda.

“Mae Cwpan y Byd yn dod bob pedair blynedd, a rhaid i chi fwynhau’r profiad, ac roedd neithiwr yn un o’r achlysuron hynny.”