Fe fydd Clwb Pêl-droed Caerdydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad sy’n eu gorchymyn i dalu dros £5m am y diweddar Emiliano Sala.

Bu’r farw’r Archentwr mewn damwain awyren wrth deithio o Ffrainc i Gaerdydd ym mis Ionawr, pan blymiodd yr awyren i’r Sianel ger Guernsey. Bu farw’r peilot David Ibbotson hefyd, ond dyw’r awdurdodau ddim wedi dod o hyd i’w gorff.

Roedd yr Adar Gleision, a oedd newydd arwyddo’r chwaraewr o Nantes, yn dadlau na ddylen fod yn gyfrifol am y ffi o £15m, gan nad oedd Emiliano Sala wedi ei gofrestru fel chwaraewr swyddogol pan fu farw.

Ond ar ddechrau’r wythnos (dydd Llun, Medi 30), fe gyhoeddodd y corff rheoli pêl-droed, FIFA, bod yn rhaid iddyn nhw dalu’r rhan gyntaf o’r ffi, sef cyfanswm o £5.3m.

Mewn datganiad, dywed Clwb Pêl-droed Caerdydd y byddan nhw’n herio’r gorchymyn yn y Llys Cymrodeddu ar gyfer Chwaraeon (CAS).