Mae’r sylwebydd, Alun Wyn Bevan, yn credu fod safon y dyfarnu yng Nghwpan y Byd wedi bod yn warthus hyd yn hyn.

“Mae safon y dyfarnu yn y gystadleaeth wedi bod yn warthus,” meddai. “Wedi i Rygbi’r Byd rybuddio’r dyfarnwyr ynglŷn a safon eu dyfarnu, mae’n rhyfedd gen i nad ydyn nhw wedi gwrando ar y cyngor.”

“Roeddwn i’n gwylio gêm Lloegr ddoe pan ddylse Pierce Francis o Loegr wedi cael ei ddanfon bant ar ôl saith eiliad.

“Ar hyn o bryd, does dim un dyfarnwr erioed wedi dyfarnu dau ffeinal Cwpan y Byd ond y dyfarnwr gorau yn y gystadleaeth o bell ffordd yw Nigel Owens.”