Mae’r cyflwynydd chwaraeon Heledd Anna yn credu fod gan Cymru “siawns dda” o drechu Awstralia dydd Sul (Medi 29).

“Dw i’n meddwl fod ganddyn nhw siawns dda o ennill, mae o’n dibynu sut mae nhw’n perfformio ar y cae.

“Yn erbyn Georgia mi ddaru nw chwarae yn fwy agored ac efo lot o flair yn ei ymosod nhw na welon ni yn eu gemau cynhesu fyny nhw.”

“Os ydi Cymru yn sgorio digon o geisiau a digon o bwyntiau, yn sicr mi allan nhw guro Awstria.

“Yn amlwg mae amddiffyn Cymru yn wych, ac pan nath Cymru guro Awstralia o 9-6 tro dwytha mi oedd hi’n gêm dyn iawn. Felly dwi’n meddwl fod o unai yn mynd i fod yn landslide un ffordd neu yn gêm dyn ofnadwy.”