Mae tîm rygbi Cymru wedi disgyn i’r pumed safle ar restr detholion y byd.

Daw’r rhestr ddiweddaraf ar ôl iddyn nhw golli o 19-10 yn erbyn Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn.

Roedd Cymru wedi dringo i’r brig ar ôl curo Lloegr o 13-6 yn Stadiwm Principality ar Awst 17.

Does gan Gymru ddim rhagor o gemau cyn eu gêm agoriadol yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd yn Japan ar Fedi 23.