Ni fydd wythwr Cymru, Taulupe Faletau, yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn Japan yn yr Hydref, a hynny oherwydd anaf i bont yr ysgwydd.
Mae’r newyddion yn siom enfawr i gefnogwyr rygbi Cymru ac yn sicr i chwaraewyr y tîm a’r hyfforddwr Warren Gatland.
Mae Taulupe Faletau, sy’n chwarae i glwb Bath, wedi ennill 72 o gapiau tros ei wlad ac mae wedi chwarae mewn pedair gêm brawf i’r Llewod.
“Mae’n ergyd fawr oherwydd mae’n rhaid cydnabod fod Taulupe Faletau yn un o’r chwaraewyr gorau yn ei safle yn y byd,” meddai’r sylwebydd rygbi Alun Wyn Bevan wrth golwg360.
“Os ydych chi’n chwarae mewn cystadleuaeth fel Cwpan y Byd allwch chi ddim fforddio colli chwaraewr o’i gymeriad a’i allu ef.
“Ond fe fydd Warren Gatland, yn dawel fach efallai, wedi sylweddoli fod yna broblem gyda Faletau oherwydd ei fod o wedi dioddef o anafiadau yn ystod y tymor, ac wedi meddwl am gynllun.”
Fe gollodd Taulupe Faletau naw mis o’r tymor sydd newydd fod oherwydd anafiadau.
“Cyfoeth mawr”
Er y golled mae Alun Wyn Bevan yn cyfeirio at y rhestr hir o chwaraewyr talentog sydd ar gael i chwarae yn safle’r wythwr i Gymru.
Mae Ross Moriarty, Josh Navidi, Aaron Shingler, Justin Tipuric ac Aaron Wainwright yn rhan o garfan Warren Gatland.
“Er colli chwaraewr o safon Faletau, dw i’n meddwl fod Cymru yn lwcus iawn fod yna chwaraewyr eraill i lenwi’r safle. Mae yna nifer fawr o chwaraewyr,” meddai Alun Wyn Bevan.
“Efallai fod Cymru yn lwcus mewn ffordd hefyd… daeth yr wythwr Ross Moriarty i’r tîm cyntaf i lenwi’r bwlch yn dda yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
“Daeth Josh Navidi mewn i’r tîm hefyd, a wnaeth hwnnw brofi ei fod o’n aelod gwerthfawr o’r tîm.”