Fe fydd Matt Grimes yn “ffynnu fel capten” ar Glwb Pêl-droed Abertawe, yn ôl y rheolwr Steve Cooper.

Mae’r Elyrch yn paratoi ar gyfer gêm gynta’r tymor newydd yn erbyn Hull yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn (Awst 3), ac am gyfnod newydd heb eu cyn-gapten Leroy Fer, a adawodd y clwb ar ddiwedd y tymor diwethaf.

Ac mae’r rheolwr newydd wedi datgelu bod sgwrs gyda’r chwaraewr canol cae 24 oed yn ystod sesiwn ymarfer yn Sbaen dros yr haf wedi dylanwadu ar ei benderfyniad i’w benodi i’r rôl.

“Dw i ddim yn meddwl bod Grimesy yn chwaraewr ifanc rhagor,” meddai wrth golwg360 yn ystod cynhadledd i’r wasg yr wythnos hon.

“A dw i’n ei ddyfynnu fe wrth ddweud hynny, oherwydd dyna ddywedodd e wrtha i yn ystod y cyfarfod cyntaf ges i â fe draw yn Sbaen.

“Fe ddywedodd e nad yw e’n teimlo fel chwaraewr ifanc, a’i fod e’n barod am gyfrifoldeb ychwanegol, sydd yn beth da i’w glywed oherwydd nid yn unig mae’n golygu ei fod e’n meddwl o ddifri am ei yrfa ei hun, ond hefyd am yr effaith gaiff e ar bobol eraill hefyd.

“O’r fan honno wnes i feddwl ’mod i wir yn credu yn y boi yma, ac y gall e wneud mwy na’r rôl oedd ganddo fe ar y pryd, oedd yn amlwg yn bwysig hefyd.”

Y rheolwr a’r capten yn tyfu ochr yn ochr

Dim ond ers tair blynedd a hanner mae Matt Grimes yn chwarae i’r Elyrch, ac fe enillodd ei le yn rheolaidd y tymor diwethaf o dan reolaeth Graham Potter.

Ac mae Steve Cooper yn rheoli un o glybiau cynghrair Lloegr am y tro cyntaf yn ei yrfa, ar ôl bod yn hyfforddi timau ieuenctid Lloegr ers sawl blwyddyn.

Yn hynny o beth, mae’r rheolwr a’r capten yn newydd i’w swyddi ac fe fyddan nhw’n tyfu o ran profiad a hyder gyda’i gilydd.

Ond dyna lle mae’r tebygrwydd rhyngddyn nhw’n dod i ben, yn ôl Steve Cooper.

“Ydych chi wedi ’ngweld i’n pasio’r bêl?!” meddai â’i dafod yn ei foch.

“Mae’n gymhariaeth dda, a dw i wedi bod yn aros am yr her yma ers amser hir, ac mae Grimesy wedi cynnig ei hun fel capten.

“Am wn i, rhaid i bawb, nid dim ond ni’n dau, ganolbwyntio ar fod y gorau gallwn ni a rhoi 100%.

“Os oes gyda fi fel prif hyfforddwr – a Grimesy fel capten – gyfrifoldebau ychwanegol, yna rhaid i ni gyflawni’r rheiny yn ogystal â gwneud ein gwaith arferol o ddydd i ddydd.

“Mae bywyd yn llawn heriau ar gyfer y lefel nesaf, os oes gyda chi uchelgais a chymhelliant.

“Mae gyda fi’r ddau, yn sicr, a’r chwaraewyr hefyd. Bydd Grimesy yn gredwr mawr yn hynny o beth.”

Cystadleuaeth am y rôl

Roedd nifer o chwaraewyr mwy profiadol a allai fod wedi olynu Leroy Fer, yn ôl y rheolwr.

Ond mae Steve Cooper yn dweud bod yr holl garfan yn cefnogi’r penderfyniad, ac yn barod i roi cymorth i’r capten newydd.

“Y peth gorau ers i ni gyhoeddi enw Grimesy yw fod eraill wedi bod yn gefnogol iawn o’r penderfyniad, ac wedi bwrw iddi i ddangos cryn gymeriad.

“Does dim angen band am eich braich i fod yn gapten neu i ymddwyn fel capten.

“Ond mae’r ffaith mai Grimesy sydd wedi ei gael e yn golygu y bydd e’n ffynnu ac yn sefyll i fyny ar y cae ac oddi arno, drwy’r amserau da a drwg, dros y clwb.”

Cyd-dynnu, nid unigolion, sy’n rhoi arweiniad

Er mai un person yn unig all fod yn gapten ar glwb ac ar dîm, mae Steve Cooper yn dweud mai arf penna’r Elyrch ar hyn o bryd yw’r ysbryd o gyd-dynnu sy’n bodoli o fewn y garfan.

“Dyna’r peth mawr sy’n gallu eich codi chi i’r lefel nesaf a chroesi’r llinell mewn gemau,” meddai.

“Ry’n ni’n gwybod ein bod ni’n cefnogi’n gilydd.

“Mae’r chwaraewyr yn gwybod ’mod i’n credu ynddyn nhw ac y gallan nhw fynd allan a bod yn bwy bynnag fynnon nhw.

“Dw i ddim yn aros iddyn nhw wneud camgymeriadau ond yn hytrach, yn aros iddyn nhw wneud pethau da oherwydd dw i’n gwybod eu bod nhw’n alluog.

“Ein harweinydd mwyaf yw ein hysbryd o gyd-dynnu er lles pawb.

“Pan fo gyda chi hynny, rhaid i chi fanteisio’n llawn arno fe a dyna’r ydyn ni’n bwriadu ei wneud eleni.”