Mae 16 o dimau ar ôl yng Nghwpan y Byd i’r Digartref yng Nghaerdydd, ond erbyn diwedd y dydd dim ond pedwar fydd ar ôl.

Bydd rownd yr 16 olaf a rownd yr wyth olaf yn cael eu chwarae heddiw, ac mae dynion Cymru yn wynebu Lithuania.

Bydd y merched yn herio Street Football United.

Nid yw deiliad cwpan y dynion, Mecsico, heb golli’r un gêm hyd yn hyn, ac mae Chile yn yr un cwch.

Mae’r ddau dîm yn debygol o fod yn brwydro tan y diwrnod olaf.

Fe fydd Bosnia a Herzegovina a De Affrica, sydd yn gyntaf ac yn ail ar frig Grŵp B, dau arall sydd wedi creu cryn argraff hefyd yn gobeithio brwydro am le yn y ffeinal hefyd.

O ran y merched, dydi Mecsico, Grŵp A, Romania, Grŵp B, na’r Iseldiroedd yng Ngrŵp C heb golli gêm.

Ble mae Cymru arni?

 Daeth tîm dynion Cymru’n bedwerydd yng Ngrŵp C ar ddiwedd gemau’r grwpiau a ddaeth i ben ddoe (dydd Iau, Awst 1), ac fe fydden nhw’n chwarae Lithuania heddiw am 2.20 o’r gloch ym Mharc Bute.

Fe fydd y merched, ddaeth yn ail yn Grŵp C, yn chwarae yn erbyn Street Football United yn y Gwpan Geltaidd am un o’r gloch i geisio ennill lle yn y rowndiau cynderfynol.

Mae Osian Lloyd, chwaraewr 19 oed Cymru o Flaenau Ffestiniog, yn barod am yr her wrth i Gymru fentro mewn i’r rowndiau olaf.

“Mae o wedi bod yn ardderchog, dw i’n knackered rŵan, ond rydan ni’n mynd eto heddiw yn y quarter final,” meddai Osian Lloyd wrth golwg360.

“Rydan ni wedi bod yn chwara’n dda, top sixteen yn barod felly mae o’n grêt. Mae yna lawer o dimau da, yn enwedig Mecsico, Chile a De Affrica.”

“Wedi sgorio llwyth”

Mae Osian Lloyd, a’i droed chwith tanboeth, “wedi sgorio llwyth” – cymaint fel nad ydy o wedi medru eu cyfrif yn iawn.

“Dw i ddim yn siŵr faint dw i wedi sgorio, mae o’n lot felly dw i wedi colli cownt, ha! Ond mae’n siŵr mod i wedi sgorio o gwmpas 10.

“Dw i’n edrych ymlaen i’r quarter finals heddiw… rydan ni’n chwarae Lithuania. Dydw i heb weld nhw’n chwarae ond maen nhw’n gorfod bod yn dda i fod yn rownd yma.

“Mae o wedi bod yn grêt cyfarfod pawb, ac mae’r awyrgylch wedi bod yn brilliant,” meddai Osian Lloyd.